Streic Newyn Wyddelig 1981
Daeth pum mlynedd o anghytuno rhwng carcharorion Gwyddelig, gweriniaethol â'r Awdurdodau i'w benllanw yn 1981 yn yr hyn a elwir yn Streic Newyn Wyddelig 1981. Ffrae ynghylch blancedi oedd asgwrn y gynnen - a hynny yn 1976 pan wrthododd Llywodraeth Lloegr roi 'Categori Statws Arbennig' i'r carcharorion gweriniaethol (y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o'r Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon IRA. Ar ôl llawer o ymosodiadau ar y carcharorion hyn, dechreuwyd protestio drwy daflu eu baw eu hunain ar waliau eu celloedd.
Yn 1980 aeth saith o'r carcharorion ar streic newyn, streic a ddaeth i ben ar ôl cyfnod o 53 diwrnod.[1]
Yn yr ail gyfres o streiciau newyn (yn 1981) cafwyd gwrthdaro gwleidyddiol drwy gyfrwng y cyfryngau torfol rhwng Prif Weinidog Gwledydd Prydain Margaret Thatcher â'r carcharorion. Safodd un ohonynt - Bobby Sands fel Aelod Seneddol a chipio'r sedd. Bu farw ef a naw arall yn ystod y cyfnod hwn gan ddenu llwyfan byd-eang i'w hachos.[2]
Rhaid cofio hefyd nad dyma brotest gwrthod bwyta cyntaf y gweriniaethwyr. Bu farw Argwlydd Faer Corc, Terence MacSwiney, ar streic newyn yng ngharchar Brixton yn Llundain ym mis Tachwedd 1920.
Dyma fanylion am y deg; eu henwau, cysylltiad militaraidd, dyddiad eu marwolaeth a hyd y streic newyn:
Enw | Cysylltiad Militaraidd | Cychwyn Streicio | Dyddiad Marw | Hyd eu Streic | Rheswm dros eu Carcharu |
---|---|---|---|---|---|
Bobby Sands | IRA | 1 Mawrth | 5 Mai | 66 diwrnod | Cario gwn |
Francis Hughes | IRA | 15 Mawrth | 12 Mai | 59 dydd | Nifer, gan gynnwys llofruddio milwr Prydeinig |
Raymond McCreesh | IRA | 22 Mawrth | 21 Mai | 61 dydd | Ymgais i lofruddio, cario gwn, aelodaeth o'r IRA |
Patsy O’Hara | INLA | 22 Mawrth | 21 Mai | 61 dydd | Cario 'hand grenade' |
Joe McDonnell | IRA | 8 Mai | 8 Gorffennaf | 61 dydd | Cario gwn |
Martin Hurson | IRA | 28 Mai | 13 Gorffennaf | 46 dydd | Ymgais i lofruddio, aelodaeth o'r IRA |
Kevin Lynch | INLA | 23 Mai | 1 Awst | 71 dydd | Dwyn gynnau |
Kieran Doherty | IRA | 22 Mai | 2 Awst | 73 dydd | Cario gynnau a ffrwydron |
Thomas McElwee | IRA | 8 Mehefin | 8 Awst | 62 dydd | Manslaughter |
Michael Devine | INLA | 22 Mehefin | 20 Awst | 60 dydd | Dwyn a chario gynnau |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ <http://cain.ulst.ac.uk/events/hstrike/chronology.htm Archifwyd 2007-05-31 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2008-10-03.