Stryd Dizengoff

prif stryd Tel Aviv

Mae Stryd Dizengoff (Hebraeg: רחוב דיזנגוף, Rehov Dizengoff) yn stryd bwysig yng nghannol dinas Tel Aviv, Israel. Enwyd y stryd ar ôl faer cynraf Tel Aviv, Meir Dizengoff. Dyma oedd prif stryd a stryd fwyaf enwog Israel a daeth yn fathodyn o lwyddiant Seioniaeth a Tel Aviv fel dinas soffistigedig.

Stryd Dizengoff
Mathstryd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMeir Dizengoff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTel Aviv Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Cyfesurynnau32.080539°N 34.773767°E Edit this on Wikidata
Hyd5 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Map
108 Dizengoff Street, adeilad nodweddiadol Bauhaus

Mae'r stryd yn rhedeg o gornel Stryd Ibn Gabirol ar ei phwynt mwyaf deheuol i ardal porthladd Tel Aviv yn ei phwynt gogledd orllewinnol.

 
Y stryd yn yr 1930au
 
Cyffordd Strydoedd Dizengoff a Ben Gurion

Disgrifiwyd y stryd yn ei blodau fel "Champs-Élysées Tel Aviv". Mewn slang Hebraeg, bathwyd gair newidd sy'n nodweddu pwysigrwydd y stryd yn y wlad newydd: "l'hizdangef" (להזדנגף), yn llythrennol "i Dizengoffio ei hun, hynny yw, i rhodio ar hyd Stryd Dizengoff" i fynd allan ar y dref[1] Nodweddwyd hi gan adeiladau lluniaidd Bauhaus. Ers yr 1970au mae'r stryd wedi dioddef cwymp mewn bri wrth i ddinasyddion fynd i maelfa, Canolfan Dizengoff hybu'r cwymp yma, yn ogystal â newidiadau i adeiladwaith y stryd.

Roedd Stryd Dizengoff i'r gogledd tuag at Sgwâr Dizengoff arfer bod yn ardal gyfoethog ond cwympodd mewn bri. I'r gogledd o'r Sgwâr mae'r stryd yn dal i ddal siopau cyfoethog [2] sy'n cynnwys siopau drud. Mae'r stryd yn llawn caffes, bwytai, ciosg byr-bryd yn gwerthu ffelaffel. Ar ben ddeuheuol y stryd ceir Sgwâr Dizengoff a maelfa Dizengoff.[1]

Daeth dirywiad y stryd yn destun trafod ymysg pobl Tel Aviv ac Israel, yn enwedig yn sgil dathliadau canmlwyddiant y ddinas yn 2009. Er mwyn troi'r rhod ar ddirywiad y stryd yn 2017, penderfynodd Bwrdeistref Tel Aviv i fuddsoddi NIS60 miliwn i adnewyddu rhan waelod Sgwâr Dizengoff i'r gynllun gwreiddiol. Mae bellach gwell ysbryd a golwg i'r stryd.

Ymosodiadau

golygu

Dioddefodd y stryd ddau ymosodiad far yn yr 1990au. Lladdwyd 22 person mewn ymosodiad terfysgol ar fws rhif 5 ar y stryd ar 5 Hydref 1994 a cafwyd ymosodiad fawr arall ar Ganolfan Dizengoff ar 4 Mawrth 1996 pan laddwyd 13 person. Codwyd cofebau i'r dioddefwyr.

Mewn diwylliant poblogaidd

golygu
Ffilm - Mae'r ffilm Dizengoff 99 (1979), yn ffilm cwlt Israeli,[3][4] gan adlewyrchu sut mae'r stryd wedi newid dros y degawdau.
Cân - Rhyddhawyd albwm o ganeuon pop Israeli ar thema Stryd Dizengodd yn 1993, Dizengoff 99 (דיזנגוף 99)[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Yahoo Tel Aviv". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-14. Cyrchwyd 2018-11-04.
  2. Frommers
  3. "Dizengoff 99", Tel Aviv Cinematheque Nodyn:He icon, accessed December 7, 2008
  4. Israeli beauty, Ynetnews, May 10, 2006
  5. https://itunes.apple.com/au/album/dizengoff-99-dyzngwp-99/id598589414

Dolenni allanol

golygu