Seioniaeth

symudiad cenedlaetholaidd Iddewig

Y dymuniad i'r Iddewon gael tiriogaeth a gwladwriaeth iddynt ei hunain yw Seioniaeth. Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn Awst 1897 yn y Gyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf yn Basel yn y Swistir. Ymfudodd ychydig o Rwsiaid Iddewig i Balesteina a phrynwyd tir oddi ar yr Arabiaid gyda chymorth ariannol o America.

Cynhowyd rhan o weledigaeth wleidyddol Seioniaeth gan Theodor Herzl yn ei pamffled ddylanwadol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"), 1896 a'i nofel, Altneuland a gyfieithwyd i'r Hebraeg fel Tel Aviv ("Bryn y Gwanwyn").

Gweithredwyd nifer o egwyddorion Seioniaeth gan fudiadau fel Chofefei Tzion a sefydlodd aneddleoedd ym Mhalesteina ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Bu i ddilynwyr Seioniaeth sefydlu treflannau yn ystod cyfnod Ymerodraeth Otomanaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf gan greu yr hyn a alwyd yn Yishuv, sef y gymuned Iddewig, Hebraeg ei hiaith ar y diriogaeth a'r egin wladwriaeth Israeli.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.