Sucre
Prifddinas swyddogol Bolifia yn ôl y cyfansoddiad yw Sucre. Fe'i lleolir yn ne canolbarth y wlad yn nhalaith Oropeza, rhan o departamento Chuquisaca. Mae ganddi boblogaeth o tua 284,032 (amcangyfrif 2010).
Math | old town, municipality of Bolivia, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Antonio José de Sucre |
Poblogaeth | 300,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | La Plata, Istanbul, San Miguel de Tucumán, Concepción, San Salvador de Jujuy, Belo Horizonte, Curitiba, Dinas Brwsel, Mechelen, Iquique, Nanjing, Bogotá, Cartagena, Colombia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Chuquisaca Department |
Sir | Talaith Oropeza |
Gwlad | Bolifia |
Arwynebedd | 1,768 km² |
Uwch y môr | 2,810 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 19.0475°S 65.26°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Sefydlwyd y ddinas ym 1538 o dan yr enw Ciudad de la Plata de la Nueva Toledo. Daeth hi'n brifddinas Bolifia ym 1839 a chafodd ei hailenwi ar ôl yr arweinydd chwyldroadol Antonio José de Sucre. Symudodd llywodraeth y wlad i La Paz ym 1898 ond mae'r Uchel Lys yn dal yn Sucre.