Istanbul
Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Istanbwl)[1] yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Atatürk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enw arni oedd Caergystennin (Lladin: Constantinopolis, Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgae'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae'n brif ddinas Talaith Istanbul yn ogystal.
![]() | |
Math |
bwrdeistref fetropolitan Twrci, cyn-brifddinas, megacity, y dinas fwyaf, dinas â phorthladd, dinas fawr, prifddinas, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
14,657,434 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth |
Ekrem İmamoğlu ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Berlin, Cairo, Skopje, Vilnius, Isfahan, Jeddah, Almaty, Beirut, Constanța, Durrës, Houston, Jakarta, Johor Bahru, Kazan’, Khartoum, Cwlen, Lahore, Rabat, Guangzhou, Shanghai, Samarcand, Tashkent, Mary, Kabul, Sucre, Surabaya, Tabriz, Mogadishu, Constantine, Athen, Fflorens, Prag, Rotterdam, St Petersburg, Sarajevo, Bwrdeistref Stockholm, Strasbwrg, Fenis, Warsaw, La Habana, Buenos Aires, Dinas Mecsico, Rio de Janeiro, Toronto, Amman, Damascus, Emirate of Dubai, Shimonoseki, Parintins, Mülheim an der Ruhr, Llundain, Plovdiv, Amsterdam, Tbilisi, Nursultan, Fienna, Budapest, Xi'an, Casablanca, Karachi, Lagos, Baku, Amsterdam, Busan, Bwcarést, Tirana, Smolyan, Dubai, Odessa, Barcelona, Bengasi ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Talaith Istanbul ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
5,343 km² ![]() |
Uwch y môr |
100 metr ![]() |
Gerllaw |
Bosphorus, Môr Marmara, Y Môr Du, Golden Horn ![]() |
Cyfesurynnau |
41.01°N 28.9603°E ![]() |
Cod post |
34000–34990 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
mayor of Istanbul ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Ekrem İmamoğlu ![]() |
![]() | |
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330–395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395–1453) ac Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453–1923). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985.
HinsawddGolygu
Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol llaith, gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.[2][3][4]
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26–28 °C a thymheredd isaf o 16–19 °C.[4] Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf.[4] Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8–10 °C a thymheredd isaf o 3–5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau.[4] Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf.[4] Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.[4]
Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[4]
Mis | Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Cyfartaledd Blwyddyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Uchafbwynt cyfartalog °C | 8.5 | 9.0 | 10.8 | 15.4 | 20.0 | 24.5 | 26.5 | 26.7 | 23.6 | 19.1 | 14.7 | 10.8 | 17.47 |
Cyfartaledd °C | 5.6 | 5.7 | 7.0 | 11.1 | 15.7 | 20.4 | 22.8 | 23.0 | 19.7 | 15.6 | 11.4 | 8.0 | 13.83 |
Isafbwynt cyfartalog °C | 3.2 | 3.1 | 4.2 | 7.7 | 12.1 | 16.5 | 19.5 | 20.0 | 16.8 | 13.0 | 8.9 | 5.5 | 10.88 |
Dyodiad mm | 105.3 | 77.3 | 71.8 | 44.9 | 34.1 | 34.0 | 31.6 | 39.8 | 57.9 | 87.7 | 101.3 | 122.6 | 808.3 (Cyfanswm dyodiad) |
Ffynonellau:Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. |
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Caferağa Medresseh
- Cumhuriyet Anıtı
- Eglwys Pammakristos
- Hagia Sofia
- Haseki Hürrem Sultan Hamamı
- Mosg Glas
- Obelisg Theodosius
- Palas Dolmabahce
- Palas Ihlamur
- Palas Maslak
- Palas Topkapi
- Palas Yildiz
- Tŵr Galata
- Tŵr GarantiBank
Pobl o IstanbulGolygu
- Constantine Mavrocordatos (1711–1769), Tywysog Wallachia.
- Alexander Ypsilantis (1725–1805), Tywysog Wallachia.
- Halide Edip Adıvar (1884–1964), nofelydd a gwleidydd.
- Bülent Ecevit (1925–2006), gwleidydd ac awdur.
- Hülya Koçyiğit (g. 1947), actores.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Istanbul].
- ↑ World Map of the Köppen-Geiger climate classification University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31
- ↑ Climatetemps – Istanbul
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. Adalwyd 2008-09-01