Sulwyn Surbwch
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 23 Rhagfyr 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Cymeriad o'r gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd SpynjBob Pantsgwâr yw Sulwyn Surbwch (Saesneg: Squidward Q. Tentacles). Cafodd Sulwyn Surbwch ei ddylunio gan animeiddwr a biolegwr morol Stephen Hillenburg. Ymddangosodd am y tro cyntaf ar y teledu ym mhennod cyntaf y cyfres, o'r enw "Help Wanted" yn 1999. Mae Sulwyn yn cael ei leisio gan Robert Bumpass yn y fersiwn Saesneg wreiddol a gan Richard Elfyn yn yr addasiad Cymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | animated television character, anthropomorphic octopus, cymeriad animeiddiedig |
---|---|
Crëwr | Stephen Hillenburg |
Offerynnau cerdd | clarinét |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Sulwyn Surbwch yn octopws anthropomorffig sy'n byw mewn cerflun rhwng tai SpynjBob Pantsgwâr a Padrig Wlyb. Yn union fel mae ei gyfenw yn awgrymu, mae Sulwyn yn cael ei bortreadu'n surbwch, drwg ei dymer, diog, sinigaidd a hunanol, gan ei fod yn dirmygu ymddygiad swnllyd gwastadol ei ddau gymydog. Fodd bynnag, nid yw'r pâr yn ymwybodol o elyniaeth Sulwyn tuag atynt ac maent yn ei weld yn gyfaill. Mae Sulwyn yn gweithio fel ariannwr ym mwyty o'r enw "Y Crancdy", swydd nad yw'n ei hoffi.
Mae Sulwyn yn byw mewn cyflwr cyson o hunan-dosturi a diflastod; mae'n anhapus gyda'i ffordd o fyw ailadroddol ac yn dyheu am statws enwog, cyfoeth, gwallt, a gyrfa gyfareddol a nodedig fel cerddor neu beintiwr ag angerdd am gelf a chwarae'r clarinét, er nad oes ganddo ddawn gwirioneddol i'r naill na'r llall. Fodd bynnag, mae'n cael ei adael i ddioddef y statws isel fel ariannwr bwyd cyflym yn y Crancdy. Mae Sulwyn yn digio ei swydd ac yn cael ei gythruddo gan ei gyflogwr barus, Mr Cranci, a gan fod ei gymydog dig ei hun, SpynjBob, fel cydweithiwr.