Mae Sumbawa yn ynys weddol fawr yn Indonesia. Saif yng nghanol cadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Lombok i'r gorllewin, Flores i'r dwyrain a Sumba i'r de-ddwyrain. Mae'n rhan o dalaith Gorllewin Nusa Tenggara, a'r dinasoedd mwyaf yw Sumbawa Besar a Bima .

Sumbawa
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,330,000 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Swnda Lleiaf Edit this on Wikidata
SirGorllewin Nusa Tenggara Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Arwynebedd14,386 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8.74034°S 117.99541°E Edit this on Wikidata
Hyd280 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Er bod Sumbawa yn ynys weddol fawr, 15,448 km², mae'r poblogaeth (1,540,000 yn 2004 yn llai na phoblogaeth ynysoedd llai megis Lombok a Bali. Yn hanesyddol, siaredid dwy iaith ar yr ynys, Basa Samawa (Indoneseg: Bahasa Sumbawa), iaith debg i iaith y Sasak ar Lombok, yn y gorllewin a Nggahi Mbojo (Bahasa Bima) yn y dwyrain.

Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Tambora, 2,850 m o uchder. Llosgfynydd yw Tambora, ac yn 1815 bu ffrwydrad anferth, tua phedair gwaith mwy na ffrwydrad Krakatoa yn 1883. Lladdwyd hyd at 92,000 o bobl a gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i 1816 gael ei disgrifio yn Ewrop fel "y flwyddyn heb haf".

Lleoliad ynys Sumbawa yn Indonesia