Mynydd Tambora
Mae Mynydd Tambora (neu Tomboro) yn losgfynydd ar ynys Sumbawa yn Indonesia. Mae'n enwog am y ffrwydrad anferth yn 1815, pan laddwyd o leiaf 71,000 o bobl. Gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i'w effeithiau gael eu teimlo cyn belled ag Ewrop, lle galwyd 1816 "y flwyddyn heb haf" oherwydd ei effeithiau ar y tywydd.
Math | stratolosgfynydd, mynydd, callor |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bima |
Gwlad | Indonesia |
Uwch y môr | 2,850 metr |
Cyfesurynnau | 8.2453°S 117.9928°E |
Amlygrwydd | 2,722 metr |
Mae gan y bardd Gwallter Mechain (Walter Davies, 1761–1849) gerdd hir sy'n disgrifio'r effaith ar Gymru yn 1816. Dyma'r llinellau agoriadol:
- Leni ni bu hardd-gu hin,
- Mai hafaidd na Mehefin;
- Ni ffynnodd ein Gorffennaf,
- Pob dyffryn a glyn yn glaf;
- Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
- Medi heb fedi i fod.
- ("Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816")[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Orgraff ddiweddar.