Susan Elan Jones
Gwleidydd Llafur yw Susan Elan Jones AS (ganwyd 1 Mehefin 1968). Cafodd ei hethol fel Aelod Seneddol De Clwyd yn Etholiadau San Steffan 2010, yn dilyn ymddeoliad Martyn Jones o'r sedd cyn yr etholiad.[1]. Collodd y sedd yn etholiad 2019 i'r Ceidwadwr Simon Baynes.
Susan Elan Jones AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 2010 – 6 Tachwedd 2019 | |
Rhagflaenydd | Martyn Jones |
---|---|
Olynydd | Simon Baynes |
Geni | 1 Mehefin 1968 Rhosllannerchrugog |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Daw Susan Elan Jones o Rosllannerchrugog yn wreiddiol, ac mae'n byw ar hyn o bryd ym Mhentre Bychan gerllaw. Astudiodd ym Mhrifysgol Bryste ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu'n gweithio fel athrawes Saesneg yn Siapan am gyfnod ar ôl graddio, ac yna bu'n gweithio i elusennau am bymtheg mlynedd cyn cael ei hethol yn Aelod Seneddol.
Bu'n Ysgrifennydd Seneddol i Harriet Harman AS. Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ac yn weithgar mewn grwpiau trawsbleidiol ar banelu coed, hen reilffyrdd, a dyfrffyrdd.
Mae'n siaradwraig Gymraeg ac yn ymgyrchydd dros y Gymraeg; yn ystod ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin rhoddodd beth o hanes yr iaith i'w chyd-aelodau gan grybwyll y Welsh Not. Wrth ymhyfrydu yn y ffaith ei bod wedi gallu tyngu llw yn Gymraeg wrth ymuno â'r Senedd, talodd deyrnged i rai (gan gynnwys ei phennaeth pan oedd yn yr ysgol, Mrs Mair Miles Thomas) sydd wedi ymladd er mwyn sicrhau hawliau sifil i siaradwyr Cymraeg.[2]
Mae wedi bod yn gefnogol i frwydr Cymdeithas yr Iaith i ddiogelu dyfodol S4C yn sgil bwriadau Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig i roi'r sianel yng ngofal y BBC. Mae hefyd wedi galw ar ei phlaid ei hun i fod yn fwy parod i frwydro dros y Gymraeg fel y mae wedi brwydro dros achosion eraill ar hyd y blynyddoedd, gan ddadlau mai'r Blaid Lafur yw'r blaid naturiol i weithio dros achosion radical o'r fath.[3]
Mae hi hefyd wedi dadlau dros gyhoeddi treuliau Aelodau Seneddol yn llawn. Caiff ei threuliau hi eu cyhoeddi ar ei gwefan yn fisol.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Blog byw noson Etholiad 2010, golwg360.com
- ↑ 3.11pm, Susan Elan Jones, TheyWorkForYou.com
- ↑ ‘Angen newid agwedd Llafur at yr iaith,’ meddai AS, golwg360.com
- ↑ http://www.susanelanjones.co.uk Archifwyd 2011-04-24 yn y Peiriant Wayback gwefan susanelanjones.co.uk
Dolenni allanol
golygu- Susan Elan Jones AS Archifwyd 2011-04-24 yn y Peiriant Wayback gwefan swyddogol
- Susan Elan Jones Jones AS Archifwyd 2011-08-09 yn y Peiriant Wayback proffil ar wefan y Blaid Lafur