Susan Mendus
Athronydd ac academydd o Gymru sy'n arbenigo mewn athroniaeth wleidyddol yw'r Athro Susan Lesley "Sue" Mendus, CBE , CBE, FLSW (ganwyd 25 Awst 1951). Mae hi'n athro emerita mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Efrog.
Susan Mendus | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1951 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Cafodd Susan Coker ei geni yn Abertawe, yn ferch i John a Beryl Coker.[1][2] Cafodd ei magu yn Waun Wen, Abertawe,[3] a chafodd ei haddysg yn ysgolion cynradd Waun Wen a Mynydd Bach.[2]
Astudiodd y clasuron ac athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio yn 1973.[3] Ar ôl graddio, aeth i Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen am BPhil yn 1975. [4] [5]
Priododd hi ag Andrew Mendus a chymryd ei henw priod, Susan Mendus.[1][3]
Ym 1975, penodwyd Mendus yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Efrog. Trosglwyddodd i'r Adran Wleidyddiaeth [6] ym 1986, a daeth yn Athro Athroniaeth Wleidyddol iddi yn 1995. Rhwng 1995 a 2000, hi oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Goddefgarwch Morrell ym Mhrifysgol Efrog. [7] Roedd yn Is-lywydd (Gwyddorau Cymdeithasol) yr Academi Brydeinig rhwng 2008 a 2012.
Mae Mendus yn Gymrodor Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi'n aelod o fyrddau golygyddol y British Journal of Political Science, y Journal of Philosophy of Education, a'r Journal of Applied Philosophy . [8]
Cyhoeddiadau
golygu- Toleration and the limits of liberalism (Goddefgarwch a therfynau rhyddfrydiaeth) (1989)
- Feminism and emotion: readings in moral and political philosophy (Ffeministiaeth ac emosiwn: darlleniadau mewn athroniaeth foesol a gwleidyddol) (2000)
- Impartiality in moral and political philosophy (Didueddrwydd mewn athroniaeth foesol a gwleidyddol) (2002)
- Politics and morality (Gwleidyddiaeth a moesoldeb) (2009)[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "MENDUS, Prof. Susan Lesley". Who's Who 2016 (yn Saesneg). Oxford University Press. Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
- ↑ 2.0 2.1 "Welsh Political Philosopher Honoured by Swansea Met" (yn Saesneg). Swansea Metropolitan University. 23 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-30. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Thomas, Geraint (1 Ionawr 2013). "Political philosopher gets CBE honour to think over". South Wales Evening Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
- ↑ "Witness Statement from Professor Susan Mendus" (PDF). Leveson Inquiry into the culture, practices and ethics of the press. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-03-23.
- ↑ "Prominent alumni". Lady Margaret Hall, Oxford. Cyrchwyd 30 November 2020.
- ↑ "Susan Mendus - Biography" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-10. Cyrchwyd 2022-12-24.
- ↑ "British Academy Fellows". The British Academy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 19 February 2013.
- ↑ "Memberships". Professor Sue Mendus (yn Saesneg). Prifysgol Efrog. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
- ↑ "British Library catalogue. Retrieved 30 November 2020". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-25. Cyrchwyd 2022-12-24.