Sut i Fod yn Hapus
Cyfrol o gerddi rhydd gan Robert Lacey yw Sut i Fod yn Hapus. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012.[1] Mae'n taflu goleuni ar ein ffordd o fyw heddiw, ac fel y mae'r teitl tafod-yn-y-boch yn ei awgrymu, mae'n bwrw golwg ddychanol a hunan-ddychanol ar ein byd trefol.
Partneriaethau o bob math, byd dinesig/trefol, arferion cymdeithas gyfalafol feddiangar, dylanwad teledu a chyfryngau eraill, sefyllfa ddiwylliannol Cymru a rhagolygon yr iaith. Os yw hynny’n swnio’n ormod o bwdin, rhaid pwysleisio fod hiwmor yn agos i’r wyneb mewn nifer fawr o gerddi; mae gan y bardd hwn hefyd ryw osgo hunan-ddychanol sy’n gwneud i rywun wenu!
Hon yw cyfrol gyntaf y bardd o Aberystwyth.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Rhagfyr 2021