Trydydd ymgais i ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 dros Wcráin yw'r gân "Sweet People". "I Love You gan Vasyl Lazarovich oedd yr ymgeisydd cyntaf ond ar ôl i lywodraeth yr Wcráin newid cafodd y gantores Alyosha ei phleidleisio i gynrychioli ei gwlad gyda "To Be Free". Fodd bynnag diarddelwyd y gân am fod y gân ar gael am flwyddyn cyn Eurovision 2010 sydd yn erbyn rheolau'r EBU. Yn y diwedd cafodd Alyosha ei dewis i ganu "Sweet People" yn Oslo, Norwy.

"Sweet People"
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010
Blwyddyn 2010
Gwlad Baner Wcráin Wcráin
Artist(iaid) Alyosha
Iaith Saesneg
Cyfansoddwr(wyr) Olena Kucher, Borys Kukoba, Vadim Lisitsa
Ysgrifennwr(wyr) Olena Kucher
Perfformiad
Canlyniad cyn-derfynol 7fed
Pwyntiau cyn-derfynol 77
Canlyniad derfynol 10fed
Pwyntiau derfynol 108
Cronoleg ymddangosiadau
"Be My Valentine! (Anti-Crisis Girl)"
(2009)
"Sweet People" "Angel"
(2011)