Swoosie Kurtz
actores
Mae Swoosie Kurtz (ganed 6 Medi 1944) yn actores Americanaidd. Dechreuodd ei gyrfa ym myd y theatr yn ystod y 1970au cyn symud ymlaen i yrfa ar y sgrîn fach, lle derbyniodd deg enwebiad ac ennill un Gwobr Emmy. Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys y ffilmiau Dangerous Liaisons (1988), Citizen Ruth (1996), a Liar Liar (1997). Trwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi parhau i berfformio yn y theatr, gan gael ei henwebu am bum Gwobr Tony a chan ennill dau ohonynt. Yn fwy diweddar, serennodd yng nghyfres ddrama ABC, Pushing Daisies.
Swoosie Kurtz | |
---|---|
Ganwyd | Swoosie Trust Kurtz 6 Medi 1944 Omaha |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor llais |
Adnabyddus am | Love, Sidney, Sisters |
Tad | Frank Kurtz |
Gwobr/au | Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, Drama Desk Award for Outstanding Featured Actress in a Musical, Outer Critics Circle Award, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actores Eithriadol mewn Sioe Gerdd |