Omaha, Nebraska
Dinas fwyaf y dalaith Americanaidd Nebraska a sedd sirol Douglas County yw Omaha. Yn ôl cyfrifiad 2000, mae gan y ddinas poblogaeth o 390 007, ac yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2006 cynyddodd poblogaeth Omaha i 427 872, sy'n cynnwys nifer ychwanegol o tua 8300 o bobl trwy gynnwys y ddinas lai Elkhorn. Lleolir Omaha ar gwr dwyreiniol Nebraska, ar Afon Missouri, tua (30 km) i ogledd aber Afon Platte. Angor ardal fetropolitan Omaha-Council Bluffs yw Omaha. Lleolir Council Bluffs, Iowa, yn syth ar draws Afon Missouri i Omaha. Ffurfiodd y ddinas a'i maestrefi y 60fed ardal fetropolitan fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2000, gydag amcangyfrif poblogaeth o 822 549 (2006)[1] yn breswyl mewn wyth sir neu tua 1.2 miliwn o fewn radiws 80 km.
![]() | |
Math |
dinas fawr, dinas yn yr Unol Daleithiau ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
466,893 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Jean Stothert ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−06:00, UTC−05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Eastern Nebraska ![]() |
Sir |
Douglas County ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
367.27 km² ![]() |
Uwch y môr |
332 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
41.27°N 96.02°W ![]() |
Cod post |
68022, 68101–68164 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Dinas Omaha ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
maer ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Jean Stothert ![]() |
![]() | |
- Am ddefnyddiau eraill, gweler Omaha (gwahaniaethu).
Mae gan Omaha etifeddiaeth ddiwylliannol ac hanesyddol gyfoethog. Mae uchelfannau diwylliannol yn cynnwys Amgueddfa Celf Joslyn, Amgueddfa Etifeddiaeth y Gorllewin Durham, Holland Performing Arts Center, a'r Omaha Community Playhouse. Roedd yn gartref i Trans-Mississippi and International Exposition 1898, ac yn lleoliad anheddau gaeaf setlwyr Llwybr y Mormoniaid. Roedd hefyd yn lleoliad digwyddiadau pwysig yn y Mudiad Hawliau Sifil. Mae hefyd yn ganolfan busnes a restrwyd fel un o ddeg hafan uwch-dechnolegol yr Unol Daleithiau gan Newsweek yn 2001.[2] Er bod tor-gyfraith yn Omaha yn gyffelyb i ddinasoedd Americanaidd o faint tebyg, mae tensiynau hiliol a methamphetaminau[3] yn faterion cymdeithasol.
GefeilldrefiGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Population Estimates and Components of Population Change for Iowa's Metropolitan Areas (2003 Definition): 2000-2006. State Data Centre of Iowa. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) Omaha Metro Data. The Greater Omaha Economic Development Council. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) Bonné, Jon. Scourge of the heartland. MSNBC. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
Cysylltiadau allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Dinas Omaha