Sybil Thomas, Is-Iarlles Rhondda
Swffraget, ffeminist a dyngarwr oedd Sybil Margaret Thomas, is- Iarlles Rhondda, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (née Haig; 25 Chwefror 1857 – 11 Mawrth 1941).
Sybil Thomas, Is-Iarlles Rhondda | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
25 Chwefror 1857 ![]() Brighton ![]() |
Bu farw |
11 Mawrth 1941 ![]() Casnewydd ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
ffeminist, swffragét ![]() |
Tad |
George Augustus Haig ![]() |
Priod |
David Alfred Thomas ![]() |
Plant |
Margaret Haig Mackworth ![]() |
Gwobr/au |
Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ![]() |
Yn y 1890au daeth Sybil Thomas yn llywydd ar Undeb Cymdeithasau Rhyddfrydol Menywod Cymru. Roedd hefyd yn gymedrolwr amlwg yn Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod.
Roedd ei chwiorydd Janetta a Lotty hefyd yn swffragets amlwg ac aeth y ddwy i garchar dros eu gweithredoedd treisgar yn enw'r achos. Daeth ei merch, Margaret Haig Thomas, yn un o ffeministaidd mwyaf nodedig Cymru. O dan eu dylanwad, ymunodd Sybil ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched. Yn 1914 cafodd ei charcharu am ddiwrnod ar ôl cynnal cyfarfod cyhoeddus tu allan i Ty'r Cyffredin.