System-gefnogi Bedair Coes

Robot pedair coes ydyw LS3 neu System-gefnogi Bedair Coes; Saesneg: Legged Squad Support System; hefyd AlphaDog) a ddefnyddir er mwyn cludo arfau, bwyd, pwer trydan ayb i sgwadiau o filwyr ar flaen y gad. Mae'n chwarae rhan y march pwn cyn dyfodiad peiriannau. Mae'n ddatblygiad o brosiect gynharach o'r enw BigDog, ac fel ei ragflaenydd gall weithio o dan amgylchiadau anodd a chaled, gan gynnwys oerni a gwres eithafol, tir gwlyb a budur.[1][2]

System-gefnogi Bedair Coes
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorffennaf 2014: yr LS3 mewn ymarfer, gyda Marine Corps Warfighting Lab UDA.

Gall gario dros 400 pwys (180 kg) o offer a syhwyro'r tirwedd o'i gwmpas er mwyn fforio'n dawel o amgylch rhwystrau. O ran maint, mae'r LS3 yn debyg iawn i'r ceffyl. Mae ganddo ddau gamera, synhwyrydd golau, ac offer pellter (LIDAR) a gall ddilyn milwyr troed gan gofnodi popeth ar ei ffordd.

dde
 
Rhagflaenydd LS3: BigDog

Cychwynwyd y gwaith o ailwampio BigDog ar 3 Rhagfyr 2009.[3] Erbyn yr ymarfer a gynhaliwyd yn 2012 roedd yn ddeg gwaith distawach na'i ragflaenwyr. Gallai gerdded ar gyflymder o 1 i 3 mya, a throtian dros greigiau garw, gallai loncian ar gyflymder o 5 mph ar dirwedd gymharol lefel.[4] Ceir dros 50 o 'synhwyryddion' gewahanol, y rhan fwyaf wedi'u lleoli ar ei goesau ac yn ei ben.

Erbyn Rhagfyr 2012 roedd yn ymateb i lais, gan fod trin i orchmynio o ap, gliniadur neu dabled yn anodd o dan amgylchiadau brwydr. Gallai ymateb i'r geiriau: "engine on" i'w godi ar ei draed, "follow tight" iddo ddilyn y milwr yn ôl ei droed, "follow corridor" iddo ddilyn o'i ben a'i bastwn ei hun, llwybr gwahanol i'r milwr, a'r un mwyaf effeithiol. Yn 2015 roedd y gwaith arno'n cynnwys ei wneud yn fwy abl a chwim ar ei bedair coes, yn enwedig drwy eira a thywod.[5] ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan fyddin UDA.

Y nod, sydd bellach wedi'i gyrraedd, mae'n debyg yw LS3 a all gario 1,000 pwys (450 kg) o offer (cymaint ag y gall naw milwr cyffredin ei gario. Credir, bellach, hefyd fod cyflymder y march (neu'r cerbyd) wedi gwella'n arw, a'i fod yn medru teithio ar 4 kya (2.5 mya) am wyth awr, gan gynyddu ei gyflymder am gyfnodau byr - i 38kawr (24 mya) am bellter o 200 metr. Wrth i'r dechnoleg wella, bydd yn medru 'cerdded' i fyny llethr (ymlaen ac yn ôl) a hynny ar ogwydd o 30%, a 60% ar i lawr.[6]

Pan mae'n syrthio ar ei ochr, mae'n 'rhowlio' yn ôl ar ei fol ac yn codi ei hun.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mandelbaum, Robert (October 2008). "Legged Squad Support System, Industry Day" (PDF). DARPA. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-01-17. Cyrchwyd 2015-03-16.
  2. Schactman, Noah (Hydref 29, 2008). "Darpa Preps Son of Robotic Mule". Wired.
  3. "Legged Squad Support System (LS3) - Trade Studies - Solicitation Number: DARPA-BAA-08-71 ". DARPA. December 3, 2009.
  4. DARPA’s Four-Legged Robots Walk Out For Capabilities Demonstration Archifwyd 2012-09-22 yn y Peiriant Wayback - Darpa.mil, September 10, 2012
  5. Watch Darpa’s Headless Robotic Mule Respond to Voice Commands - Wired.com, 19 Rhagfyr 2012
  6. UGV models face off over firepower, load carrying Archifwyd 2014-01-27 yn archive.today - Armytimes.com, 12 October 2013

Dolen allanol

golygu