Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau
Mae Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn un o ddwy siambr Cyngres yr Unol Daleithiau; yr ail siambr yw'r Senedd yr Unol Daleithiau. Caiff pob talaith un cynrychiolydd yn y Tŷ yn ôl ei phoblogaeth ond caiff o leiaf un Cynrychiolydd. Ar hyn o bryd, mae gan y dalaith fwyaf poblog Califfornia 53 cynrychiolydd. 435 yw'r cyfanswm o gynrychiolwyr sydd a'r hawl i bleidleisio. Gwasanaetha pob cynrychiolydd am ddwy flynedd. Y Llefarydd yw swyddog llywyddol y Tŷ, a chaiff ei ethol gan aelodau'r Tŷ.
Am fod ei aelodau'n cael eu hethol o ardaloedd llai (ar boblogaeth o 693,000 o drigolion yn 2007 ar gyfartaledd) na'r hyn a welir yn y Senedd, yn gyffredinol ystyrir y Tŷ yn siambr llawer mwy pleidiol. Rhoddwyd pŵerau unigryw i'r Tŷ megis y pŵer i gyflwyno mesurau cyllid, uchelgyhuddo swyddogion ac ethol yr arlywydd mewn achosion o anghytundeb etholiadau llwyr.
Cyfarfydda'r Tŷ yn yr adain ddeheuol o Capitol yr Unol Daleithiau.