Tacson
grŵp o organebau a ystyrir yn uned
(Ailgyfeiriad o Tacsonomeg)
Tacson, neu uned dacsonomaidd, yw grŵp o organebau (wedi'u henwi neu'n ddienw), yn y system dosbarthiad gwyddonol.
Strwythr
golyguUnwaith ei fod wedi'i enwi, bydd gan bob tacson reng benodol o fewn hierarchaeth. Yn aml ceir anghytundeb gan dacsonomegwyr ynglŷn â beth sy'n perthyn i dacson arbennig, a'r llinyn mesur dros gynnwys y rhywogaeth yn y tacson hwnnw. Pan fo cytundeb, rhoddir enw gwyddonol (Lladin) arno a rheolir y defnydd o'r enw hwnnw drwy gyplysu enwau gyfundrefnol (nomenclature code) gyda'r grŵp.
Dyma rengoedd tacsonau mewn trefn hierarchaidd:
Defnyddir y rhagddodiaid uwch- ac is- i ddangos rhengoedd llai nodedig o fewn y prif dacsonau uchod. Er enghraifft:
- Uwchddosbarth
- Dosbarth
- Isddosbarth
- Infraddosbarth - defnyddir y rhagddodiad infra- i ddynodi rheng sy'n islaw is- yn Sŵoleg