Tafarndy Horse & Jockey, Wrecsam
Tafarndy gyda tho gwellt yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Horse & Jockey. Mae'r tafarndy'n un o adeiladau hynaf y ddinas, wedi'i adeiladu o bosib yn 16eg ganrif. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[1]
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 84.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.046104°N 2.994949°W |
Cod post | LL11 1BG |
Perchnogaeth | Punch Pubs |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae'r tafarndy yn sefyll yng nghalon fasnachol Wrecsam, ar y groesffordd rhwng Stryt yr Hôb a Stryt y Priordy, yn gyferbyn i'r Argyle Arch.
Disgrifiad
golyguYr unig adeilad gydag ymddangosiad canoloesol ar Stryt yr Hôb yw'r Horse & Jockey. Mae'n adeilad bach a hir gyda tho gwellt yw'r tafarndy, sy'n wahanol iawn i'r adeiladau eraill ar y stryd. Mae'r talcen yn sefyll ar Stryt yr Hôb, ac mae'r adeilad yn estyn ar hyd Stryt y Priordy. [2]
Hanes
golyguAdeiladwyd y tafarndy yn ôl pob tebyg fel tŷ neuadd yn yr 16g ond fe'i defnyddir fel tafarn ers canrifoedd. Cafodd o ei ymestyn yn yr ail ganrif ar bymtheg a'i rannu'n dri. Cafodd o ei ailfodelu'n sylweddol er mwyn dod yn dafarn.[3]
Yn 1938 cafodd y dafarn ei gwerthu i'r cwmni Wrexham Lager, a atgyweiriodd yr adeilad er mwyn atal ei ddymchwel.[3]
Enwyd y dafarn ar ôl y joci pencampwr Fictoraidd Fred Archer.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wrexham Town Centre Conservation Area Assessment and Management" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 6 September 2022.
- ↑ "Horse And Jockey Public House, 32 Hope Street, Wrexham - Coflein". Coflein. Cyrchwyd 6 Medi 2022.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Horse and Jockey pub, Wrexham - history points". History Points. Cyrchwyd 6 September 2022.