Grŵp pop Seisnig ydy Take That. Aelodau'r grŵp yw Gary Barlow, Howard Donald, Jason Orange, Mark Owen, ac roedd Robbie Williams yn aelod gynt hefyd. Ar ôl llwyddiant ysgubol ar ddechrau tan ganol y 1990au fel grŵp pum aelod, ail-ffurfiwyd y band fel grŵp pedwar aelod yng nghanol y 2000au heb Williams.

Take That
Enghraifft o'r canlynolband o fechgyn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Label recordioCBS Records, BMG Rights Management Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1990, 2005 Edit this on Wikidata
Dod i ben1996 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1990 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, ffwnc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRobbie Williams, Howard Donald, Mark Owen, Gary Barlow, Jason Orange Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://takethat.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Take That yn y dyddiau cynnar

Ffurfiwyd y band gan Nigel Martin Smith ym Manceinion ym 1990 a gwerthodd y band dros 30 miliwn o recordiau rhwng 1991–1996. Ers rhyddhau eu sengl cyntaf ym 1991 i'r cyfnod pan wahanodd y band ym 1996, disgrifiodd y BBC y grŵp fel "y band Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig ers The Beatles, sy'n apelio i'r hen a'r ifanc ar yr un pryd". Domineiddodd caneuon pop a chaneuon serch Take That y siartiau Prydeinig yn hanner cyntaf y 1990au, gan greu dwy o'r albymau a werthodd orau y degawd honno sef Everything Changes (a enwebwyd am Wobr Mercury ym 1994)[1] a Greatest Hits yn 1996. Yn ôl Allmusic "roeddent yn serennau awr yn Ewrop ar y pryd, a'r unig gwestiwn oedd, nid a allent gael sengl llwyddiannus, ond faint ohonynt fuasai'n cyrraedd rhif un ar y siartiau."

Gwahanodd y band ym 1996, ond ar ôl rhaglen ddogfen yn 2005 a rhyddhau albwm o'u caneuon gorau, cyhoeddwyd yn swyddogol y byddent yn ail-ffurfio fel grŵp i wneud taith o amgylch y Deyrnas Unedig. Galwyd y daith yn The Ultimate Tour. Ar 9 Mai cyhoeddwyd bod Take That yn bwriadu recordio eu halbwm stiwdio cyntaf mewn dros deng mlynedd o'r enw Beautiful World. Aeth y band ymlaen i gynhyrchu taith arall yn 2007 sef The Beautiful World Tour, cyfres o gyngherddau a werthodd allan yn llwyr. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn wrth y beirniaid a dyma yw eu taith sydd wedi gwerthu orau hyd yn hyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mercury/Nationwide Music Prize". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-18. Cyrchwyd 2008-10-14.