Nofelydd Americanaidd ac awdur straeon byrion yw Tama Janowitz (ganwyd 12 Ebrill 1957).[1] Cyfeirir ati'n aml fel un o brif awduron y "brat pack", ynghyd â Bret Easton Ellis, a Jay McInerney.[2]

Tama Janowitz
Ganwyd12 Ebrill 1957 Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, llenor Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn San Francisco a mynychodd Goleg Barnard, Prifysgol Columbia ac Ysgol Gelf Columbia.

Magwraeth a choleg

golygu

Ysgarodd ei rhieni, sef y seiciatrydd Julian Janowitz, a Phyllis Janowitz, athro llenyddiaeth ym Mhrifysgol Cornell, pan oedd hi'n ddeg oed. Magwyd hi a'i brawd David gyda'i mam ym Massachusetts.[3] Am ddwy flynedd ar ddiwedd y 1960au, buon nhw'n byw yn Israel.[4][5][6][7]

Graddiodd Janowitz o Goleg Barnard gyda gradd B.A. ym 1977 ac o Goleg Hollins gydag M.A. ym 1979. Yn 1985 derbyniodd M.F.A gan Ysgol Gelf Prifysgol Columbia.[8]

Yr awdur

golygu

Ar ôl ymgartrefu yn Ninas Efrog Newydd, dechreuodd Janowitz ysgrifennu am y bywyd yno, gan gymdeithasu gydag Andy Warhol a dod yn adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol a chymdeithasol Manhattan. Daeth ei chasgliad 1986 o straeon byrion, Slaves of New York, ag enwogrwydd ehangach iddi. Addaswyd Slaves of New York yn ffilm ym 1989 a gyfarwyddwyd gan James Ivory ac a oedd yn serennu Bernadette Peters. Ysgrifennodd Janowitz y sgrinlun a ymddangosodd hefyd fel actores, gan chwarae rhan ffrind Peters.

Anrhydeddau a gwobrau

golygu
  • 1975 Bread Loaf Writers fellowship
  • 1976; 1977 Janoway Fiction prize
  • 1982 National Endowment award [9]

Ffuglen

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tama Janowitz Biography". biography.jrank.org. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
  2. Wyatt, Edward (7 Awst 2005). "Bret Easton Ellis: The Man in the Mirror". New York Times.
  3. "She'll Take Manhattan", New York Magazine, 14 Gorffennaf 1986
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12097090s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12097090s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: "Tama Janowitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Tama Janowitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Tana Janowitz". "Tama Janowitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Fulton, Alice. "Phyllis Janowitz" (PDF). blogs.cornell.edu. Cornell University. Cyrchwyd 5 Medi 2016.
  8. "Tama Janowitz Biography". Biography.jrank.org. Cyrchwyd 2010-08-07.
  9. "Tama Janowitz Biography". Biography.jrank.org. Cyrchwyd 2010-08-07.