Actor Americanaidd yw Tanner Emmanuel Buchanan (ganwyd 8 Rhagfyr 1998). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Robby Keene yn y gyfres ddilynol i ffilmiau The Karate Kid yn Cobra Kai o 2018.

Tanner Buchanan
GanwydTanner Emmanuel Buchanan Edit this on Wikidata
8 Rhagfyr 1998 Edit this on Wikidata
Burbank Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, dawnsiwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tanner-buchanan.com Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ganed Tanner Emmanuel Buchanan ar 8 Rhagfyr 8 1998 yn Lima, Ohio [1] ond fe'i magwyd yn Ottawa yn Ohio. Yn 2010 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu, gan chwarae rhan plentyn yn y gyfres Modern Family. Dair blynedd yn ddiweddarach ymddangosodd yn Major Crimes, Grey's Anatomy a The Goldbergs. Yn 2016 chwaraeodd ei rôl deledu fawr gyntaf, gan chwarae rhan Leo Kirkman yn y gyfres wleidyddol Designated Survivor.[2][3]​ Yn 2018 ymunodd â phrif gast y gyfres Cobra Kai, gan ymddangos eto yn ei hail, trydydd, pedwerydd a phumed tymor, yn 2019, 2021 a 2022 yn y drefn honno.[4][5]​ Yn 2021 bu’n serennu ochr yn ochr ag Addison Rae mewn addasiad o’r ffilm “She’s All That” o’r enw “He’s All That”.

Ffilmograffiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Teledu golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Lima native goes from Ohio to Hollywood". The Bladen. Cyrchwyd 2021-03-13.
  2. "President Kirkman's Campaign is Struggling in Designated Survivor Trailer". ComingSoon.net. 3 Mai 2019. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  3. "Designated Survivor Season Three Will Be Released On Netflix This June". www.ladbible.com. 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  4. Calle, Tommy. "Los momentos más impactantes de la segunda temporada de Cobra Kai". hoylosangeles.com (yn Sp). Cyrchwyd 6 Mai 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. "EXCLUSIVE: 'Cobra Kai' Star Tanner Buchanan Talks Season 2, Training Process, and Being Part of the 'Karate Kid' Franchise". CelebMix. 26 Ebrill 2019. Cyrchwyd 6 Mai 2019.