Modern Family
Rhaglen ffug-ddogfen Americanaidd yw Modern Family a ddarlledwyd ar ABC am y tro cyntaf ar 23 Medi 2009. Adnewyddwyd y rhaglen am ei seithfed gyfres gan ABC ar 7 Mai, 2015.
Modern Family | |
---|---|
Genre | Comedi sefyllfa Rhaglen ffug-ddogfen |
Crëwyd gan | Christopher Lloyd Steven Levitan |
Serennu | Ed O'Neill Sofía Vergara Julie Bowen Ty Burrell Jesse Tyler Ferguson Eric Stonestreet Sarah Hyland Ariel Winter Nolan Gould Rico Rodriguez Aubrey Anderson-Emmons |
Cyfansoddwr y thema | Gabriel Mann |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 11 |
Nifer penodau | 250 |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | ABC |
Rhediad cyntaf yn | 23 Medi 2009 - presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae'r rhaglen yn dilyn bywydau Jay Pritchett a'i deulu, sy'n byw mewn ardal faestrefol o Los Angeles: Jay, ei ail wraig, llysfab a'i faban a dau blentyn hŷn, eu gwŷr a'u plant. Cafodd Christopher Lloyd a Steven Levitan y syniad am y gyfres pan yn rhannu straeon am eu "teuluoedd modern" hwy. Cyflwynir y gyfres mewn arddull rhaglen ffug-ddogfen, gyda'r cymeriadau ffuglennol yn siarad yn uniongyrchol i'r camera. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 23 Medi, 2009 gyda 12.6 miliwn o wylwyr, a chomisiynwyd Modern Family am gyfres lawn ar Hydref 8, 2009.[1][2]
Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol gan adolygwyr[3] ac wedi ennill llwyth o wobrau, gan gynnwys y Wobr Emmy am 'Gyfres Gomedi Rhagorol', ym mhob un o'r pum mlynedd ddiwethaf a'r Wobr Emmy am 'Actor Ategol Rhagorol mewn Cyfres Gomedi' pedair gwaith - dwywaith am waith Eric Stonestreet a dwywaith i'r actor Ty Burrell, yn ogystal â'r wobr 'Actores Ategol Rhagorol mewn Cyfres Gomedi' a gyflwynwyd ddwywaith i Julie Bowen. Enillodd hefyd y Wobr Golden Globe am y 'Gyfres Deledu Orau - Sioe Gerdd neu Gomedi'.[4][5]
Cynhyrchu
golyguY cysyniad
golyguWrth i grëwyr y gyfres (Christopher Lloyd a Steven Levitan) drafod straeon am eu teuluoedd, sylweddolant y gallai'r straeon hyn ffurfio rhaglen deledu.[6] Dechreuodd y ddau weithio ar y syniad o deulu yn cael ei arsylwi mewn arddull rhaglen ffug-ddogfen. Penderfynant wedyn y gallai'r rhaglen ddilyn tri theulu a'u profiadau. Yn wreiddiol, My American Family oedd enw'r rhaglen, a rhedid y criw camera gan wneuthurwr ffilmiau o'r Iseldiroedd o'r enw Geert Floortje, a arferai fyw gyda theulu Jay fel myfyriwr cyfnewid. Roedd ef yn ffansïo Claire ac roedd Mitchell yn ei ffansïo. Teimlodd y cynhyrchwyr wedyn bod yr elfen hon o'r rhaglen yn ddiangen, a chawsant wared ar y syniad.[7] Mae'n well gan Lloyd bellach edrych ar y gyfres fel "rhaglen deulu a wnaed mewn arddull rhaglen ddogfen".
Derbyniwyd y rhaglen gan ABC a gomisiynodd gyfres lawn.
Comisiynu
golyguDaeth y gyfres yn flaenoriaeth i ABC yn sydyn iawn. Profodd y bennod beilot yn llwyddiannus gyda grwpiau ffocws ac o ganlyniad archebwyd 16 o benodau gan y rhwydwaith ac ychwanegwyd i gasgliad o raglenni ABC am yr Hydref 2009-2010, ychydig o ddyddiau cyn iddynt gyhoeddi eu hamserlen. Comisiynwyd y gyfres am gyfres lawn ar 8 Hydref, 2009. Ar 12 Ionawr, 2010, cyhoeddodd Llywydd Adloniant ABC Stephen McPherson bod Modern Family wedi cael ei hadnewyddu am ail gyfres. Archebwyd trydedd gyfres gan ABC ar 10 Ionawr, 2011. Darlledir y gyfres ar Sky1 yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Ffilmio
golyguFfilmir y gyfres yn Los Angeles, a saethir llawer o olygfeydd allanol yn ardal Westside o'r ddinas. Saif tŷ'r teulu Dunphy yng nghymdogaeth Cheviot Hills, ac ers 2014 defnyddir Ysgol Uwchradd Siarter Palisades ar gyfer golygfeydd allanol ysgol Luke a Manny.
Mae Lloyd a Levitan yn uwch gynhyrchwyr ar y gyfres, ac yn gweithio fel rhedwr y rhaglen a phennaeth ysgrifennu o dan eu label Lloyd-Levitan Productions mewn cysylltiad â 'Twentieth Century Fox Television'. Y cynhyrchwyr eraill yn y tîm ysgrifennu yw Paul Corrigan, Sameer Gardezi, Joe Lawson, Dan O'Shannon, Brad Walsh, Caroline Williams, Bill Wrubel, Danny Zuker, a Jeff Morton. Cynhwyswyd Jason Winer, Michael Spiller, Randall Einhorn a Chris Koch yn y tîm cyntaf o gyfarwyddwyr. Mae Winer wedi cyfarwyddo un-deg-naw pennod sy'n golygu mai ef yw'r cyfarwyddwr sydd wedi cyfarwyddo y nifer mwyaf o benodau'r gyfres.
Cast a chymeriadau
golyguMae gan Modern Family gast ensemble. Canolbwynt y rhaglen yw tri theulu sy'n byw yn ardal Los Angeles a gysylltir trwy Jay Pritchett a'i blant Claire a Mitchell. Ail-briododd Jay (Ed O'Neill), y patriarch, ferch sy'n llawer yn iau nag ef, sef Gloria (Sofía Vergara), sy'n ferch angerddol o Golombia. Bellach, mae gan y ddau faban o'r enw Fulgencio Joseph (Joe) Pritchett; a mab o briodas blaenoral Gloria, Manny (Rico Rodriguez). Gwraig tŷ yw merch Jay, Claire (Julie Bowen), sy'n briod i Phil Dunphy (Ty Burrell), gwerthwr eiddo sy'n ystyried ei hunan i fod yn "dad cŵl". Mae ganddynt dri o blant: Haley (Sarah Hyland) merch hunanol ystrydebol yn ei harddegau sy'n dangos ei hochr garedig o bryd i'w gilydd; Alex (Ariel Winter), merch ddeallus sy'n cael trafferth gyda bechgyn; a Luke (Nolan Gould) bachgen trwsgl ond cariadus a'u hunig fab. Cyfreithiwr yw mab hynaf Jay, Mitchell (Jesse Tyler Ferguson) sy'n briod i Cameron (Eric Stonestreet) athro a chyn-glown. Mabwysiadodd y ddau ferch o Fietnam o'r enw Lily (Ella a Jaden Hiller (Cyfres1-2), Aubrey Anderson-Emmons (Cyfres 3-presennol)).
Mae'r gyfres hefyd wedi cael llawer o gymeriadau cylchol. Ymddangosodd Reid Ewing mewn sawl pennod fel caraid Haley, Dylan. Mae Fred Willard wedi bod yn seren wadd yn ymddangos fel Frank, tad Phil; ac enwebwyd ef am y wobr Actor Gwadd Rhagorol mewn Cyfres Gomedi yn yr 62ain Gwobrau Primetime Emmy ond collodd i berfformiad Neil Patrick Harris yn Glee. Ymddangosodd Shelley Long yn y ddwy gyfres gyntaf, ac o bryd i'w gilydd mewn cyfresi wedyn fel DeDe Pritchett, cyn-wraig Jay a mam Claire a Mitchell. Ymddangosodd Nathan Lane yn yr ail a'r pumed gyfres fel Pepper Saltzman, ffrind coegwych i Cameron a Mitchell.
Mae Stella, ci Jay a Gloria, wedi ymddangos mewn ambell i bennod - a chwaraewyd yn gyntaf gan Brigitte ac wedyn gan Beatrice. Chwaraeir Larry, cath Mitchell a Cameron, gan Frosty.
Penodau
golyguDangoswyd y gyfres am y tro cyntaf Nos Fercher 23 Medi, 2009, yn y slot 9:00 y.h. Comisiynwyd am gyfres lawn gyda phedair pennod ar hugain ar 8 Hydref, 2009.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Seidman, Robert (24 Medi 2009). "Wednesday broadcast finals: Modern Family down a tenth, Cougar Town up a tenth with adults 18–49". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-05. Cyrchwyd 2009-10-20.
- ↑ "From Metacritic (23 Medi 2009)". Metacritic.com. 15 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-01. Cyrchwyd 2011-05-28.
- ↑ Wolfson, Matthew. "Modern Family: Season Five". Slant Magazine. Cyrchwyd 15 Mai 2014.
- ↑ "Primetime Emmy Award Nominations". Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2012.
- ↑ April MacIntyre (30 Awst 2010). "Emmy Awards 2010 Winners List, Surprises and Omissions". Monsters and Critics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2010-08-30.
- ↑ "Modern Family Season 1: Christopher Lloyd Interview". MovieWeb.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-27. Cyrchwyd 2010-09-04.
- ↑ "Modern Family: Co-creator Steve Levitan weighs in". NJ.com. 2010-01-14. Cyrchwyd 2010-09-04.