Cyflwynydd tywydd ar S4C yw Tanwen Cray (ganwyd 28 Tachwedd 2000).[angen ffynhonnell]

Ganed Tanwen Mair Cray yn ferch i'r cyflwynydd Angharad Mair a Joni Cray. Ymunodd a thim cyflwyno'r Tywydd ar raglen Newyddion yn Mai 2022.[1]

Ei phartner yw'r pêl-droediwr Ollie Cooper. Mae cyfres deledu yn dilyn y cwpl drwy feichiogrwydd Tanwen yn y misoedd cyn geni eu plentyn. Ganwyd merch iddynt, Neli, ddiwedd mis Ionawr 2024.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tanwen Cray". Golwg360. 2022-07-03. Cyrchwyd 2024-05-08.
  2. "Tanwen Cray: Chwalu'r tabŵ am fod yn fam ifanc". BBC Cymru Fyw. 2024-04-17. Cyrchwyd 2024-05-09.