Angharad Mair

Cyflwynydd a chynhyrchydd teledu o Gymraes

Cyflwynydd teledu Cymreig, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr Tinopolis ydy Angharad Mair (ganed 30 Mawrth 1961)[1].

Angharad Mair
GanwydAngharad Mair Davies Edit this on Wikidata
30 Mawrth 1961 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethrhedwr marathon, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, gweithredwr mewn busnes Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Chwaraeon

Ei bywyd cynnar golygu

Ganwyd Angharad yng Nghaerfyrddin. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor.[2]

Gyrfa golygu

Wedi gadael y coleg, daeth yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant Bilidowcar pan ail-lansiwyd y rhaglen ar S4C ar 2 Tachwedd 1992. Gadawodd yn 1987 pan ymunodd â thîm newyddion y BBC[3]. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno'r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Bu hefyd yn cyflwyno ar Prynhawn Da, Wedi 3 a Wedi 7. Hi yw golygydd cyfres Heno.

Bywyd personol golygu

Roedd yn 30 mlwydd oed cyn iddi ddechrau rhedeg ac yn 1997, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Athens. Rhoddodd y gorau i redeg ers ei phedwardegau.[1] Mae'n briod â Jonathan Cray, sy'n gweithio fel dyn camera i Tinopolis ac mae dwy ferch ganddynt. Bu'r teulu yn byw am rai blynyddoedd yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.[4] Yn 2020 symudodd i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.[5]

Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[6]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Cyfweliad Angharad Mair. Dewi Llwyd ar fore Sul. BBC. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
  2. Cyflwynydd yn crwydro i gyrraedd copa cyfarwydd. , Daily Post, 16 Mawrth 2002. Cyrchwyd ar 1 Tachwedd 2022.
  3.  Yr Orsedd yn cyhoeddi urddau'r de ddwyrain. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
  4.  Angharad Mair. aren.co.uk.
  5.  Adre: Angharad Mair. S4C (28 Rhagfyr 2020).
  6. "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.