Tarian Rhos Rydd
Mae Tarian Rhos-Rydd, [1] [2] neu Rhyd y Gors[3] (neu'n llai cyffredin tarian Glan-rhos [2]) yn darian fawr copr-aloi o Oes yr Efydd, a ddarganfuwyd yn Rhos-Rydd neu Rhyd y Gors, ger Blaenplwyf, Cymru. Fe'i cynhelir ar hyn o bryd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Y mae yn hollol wastad, 667 mm ar draws, a 0.7 mm o drwch, yn pwyso 1929 gram. Mae'n dyddio o'r 12fed i'r 10fed ganrif CC.
Enghraifft o'r canlynol | tarian Yetholm |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguDarganfuwyd y tarian Brythonig yng nghors Rhyd-y-gors, Ceredigion, cyn 1834 yn ôl rhai ffynonellau.[4][5][6]
Yn ôl ffynhonnell arall, darganfuwyd y darian yn 1804 yng nghors Rhos Rydd.[7]
Rhoddwyd y tarian i'r Amgueddfa Brydeinig gan Augustus Wollaston Franks ym 1873. Mae'r darian hon yn enghraifft o ddefnydd aloi copr cynnar o'r Oes Efydd.[8]
Dychwelyd i Gymru
golyguBu galwadau yn y cyfryngau cenedlaethol Cymreig i ddychwelyd rhai o'r arteffactau mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yng Nghymru o'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r arteffactau hyn yn cynnwys tariannau Rhos Rhydd, Moel Hebog a byclwyr Cymreig. Mae galwadau hefyd i ddychwelyd Clogyn enwog Yr Wyddgrug, Lunula Llanllyfni, Dynes Goch Pafiland ( Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Rhydychen ) a Tancard Trawsfynydd ( Amgueddfa'r Byd, Lerpwl ) i gyd i amgueddfa yng Nghymru. [9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Late Bronze Age bronze shield". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-15.
- ↑ 2.0 2.1 "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2023-02-15.
- ↑ Walford, Edward; Cox, John Charles; Apperson, George Latimer (1911). The Antiquary (yn Saesneg). E. Stock.
- ↑ The History of British Costume, (James Robinson Planché, 1834, Charles Knight, London)
- ↑ Archaeologia Cambrensis: the journal of the Cambrian Archaeological Association. 1896 (yn Saesneg). Assoc. 1896. t. 212.
- ↑ Walford, Edward; Cox, John Charles; Apperson, George Latimer (1911). The Antiquary (yn Saesneg). E. Stock.
- ↑ "Cymraeg". Coflein (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
- ↑ "shield | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 February 2022.
- ↑ "Buried treasure: calls for important Welsh artefacts to be brought back home". Nation.Cymru (yn Saesneg). 25 September 2021. Cyrchwyd 10 February 2022.