Tarwden y traed
Achosir tarwden y traed (Saesneg: athlete's foot), a elwir hefyd yn tinea pedis, gan haint ffwngaidd parasitig sy'n effeithio ar groen traed unigolyn. Mae’r ffwng (Trichophyton mentagrophytes fel rheol, ond nid o reidrwydd,) yn byw rhwng bysedd y traed yn yr amgylchedd gwlyb, cynnes a grëir gan esgidiau a hosanau. Mae'n peri i'r croen fod yn gaenog, yn goch ac i gosi. Mae'n rhaid ei drin â meddyginiaeth ffyngladdol. Gellir lleihau'r perygl drwy hylendid traed da.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | dermatophytosis, foot diseases, clefyd y croen, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall tarwden y traed ymledu drwy gysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae cysylltiad uniongyrchol yn golygu cysylltiad croen â chroen. Er enghraifft, gallai rhywun ddatblygu'r haint petaen nhw'n cyffwrdd yn uniongyrchol â'ch croen heintiedig, a pheidio â golchi eu dwylo wedyn. Gall yr haint hefyd ymledu drwy gysylltiad anuniongyrchol. Er enghraifft, gellir trosglwyddo'r ffyngau drwy dywelion, cynfasau gwely, a dillad heintiedig.
Mae cawodydd, pyllau nofio, ac ystafelloedd loceri hefyd yn llefydd cyffredin ble gall yr haint gael ei drosglwyddo. Mae hyn oherwydd, yn debyg i'ch traed, mae'r llefydd hyn fel rheol yn gynnes ac yn llaith, sy'n annog bacteria a ffyngau i luosi.
Mae tarwden y traed yn fwyaf cyffredin mewn dynion ac arddegwyr. Mae'n gymharol brin mewn plant dan 12 oed, ac mae'n fwy anghyffredin mewn menywod. Ni ddeallir eto pam mae rhai pobl yn fwy tueddol o ddatblygu tarwden y traed nag eraill.
Fel mae ei enw Saesneg (athlete’s foot) yn awgrymu, mae tarwden y traed yn gyffredin ymhlith pobl sy'n gwneud llawer o chwaraeon. Mae hyn oherwydd eu bod yn aml yn defnyddio'r llefydd sy'n helpu i ymledu'r haint (fel cawodydd ac ystafelloedd loceri). Mae chwaraeon ac ymarfer hefyd yn dueddol o wneud eich traed yn gynhesach ac yn fwy gwlyb nag arfer, sydd eto'n helpu'r ffyngau i dyfu. Mae trainers tynn hefyd yn annog twf ffyngau.[1]
Ymlediad haint
golyguMae'r frech yn dechrau yn y bylchau rhwng y pedwerydd a'r pumed bys troed. Os na chaiff yr haint ei drin, gall brech hefyd ffurfio ar waelod ac ochrau'r traed. Weithiau gall yr haint hefyd ymledu i'r casewinedd, gan beri iddynt fynd yn sych ac yn frau. Gall crafu croen heintiedig, ac yna cyffwrdd â rhannau eraill o'r corff, beri i'r haint ymledu. Mae'n bwysig felly bod yr haint yn cael ei drin (gweler yr adran 'triniaeth'), a bod dwylo'n cael eu golchi'n drwyadl ar ôl cyffwrdd â'r frech.
Tinea manuum
golyguMewn rhai achosion gall yr haint ffwngaidd sy'n achosi tarwden y traed ymledu i'r dwylo. Gelwir hyn yn tinea manuum. Mae'r haint ffwngaidd yn fwyaf tebygol o ymledu i'r dwylo trwy gyffwrdd â'r croen heintiedig a pheidio â golchi'r dwylo wedyn.
Symptomau
golyguMae tarwden y traed yn peri i chi ddatblygu brech, fel rheol yn y bylchau rhwng bysedd eich traed, yn enwedig rhwng y pedwerydd a'r pumed bys troed. Mae'r frech yn sych, yn gaenog ac yn cosi, ac os na chaiff ei thrin gall fynd yn llidus (yn goch, yn boeth ac yn pigo). Mae heintiau eilaidd yn dod yn berygl ar y cyfnod hwn. Mae symptomau tinea manuum yn debyg iawn i darwden y traed. Mae'r croen yn mynd yn sych, yn goch ac yn cosi. Y crychau yng nghledrau'r dwylo ac ochrau'r bysedd yw'r mannau yr effeithir arnynt yn fwyaf cyffredin.
Diagnosis
golyguFel arfer mae tarwden y traed yn haint ysgafn iawn, y gellir fel rheol ei hunan-ddiagnosio a'i drin ar sail y symptomau a welir. Os nad yw tarwden y traed yn ymateb i driniaeth, neu os yw'r cyflwr yn achosi poen, neu anghysur, mae angen gweld y meddyg teulu, fel y gellir cymryd sampl er mwyn adnabod y ffwng. Bydd yn caniatáu i'r driniaeth fwyaf priodol gael ei rhagnodi.
Triniaeth
golyguYn gyffredinol gellir rhoi triniaeth yn bersonol, gan ddefnyddio moddion gwrthffwngaidd dros y cownter a allai fod ar ffurf hufen, chwistrell hylif neu bowdwr.
Os yw'r frech yn arbennig o lidus ac wedi chwyddo, mae gwell triniaeth ar gael sy'n cynnwys cynhwysyn gwrthlidiol a elwir yn hydrocortison. Mae triniaethau gyda dosiau isel o hydrocortison ar gael dros y cownter (OTC).
Rheolaeth
golyguMae tarwden y traed yn ymledol, ond ceir ffyrdd o gyfyngu ar y tebygolrwydd o ymledu'r haint:
- Peidiwch â cherdded yn droednoeth mewn mannau cymunedol.
- Peidiwch â defnyddio cyfleusterau cawod neu fath cymunedol.
- Peidiwch â rhannu tywelion.
- Defnyddiwch y drefn hylendid da ganlynol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)