Ffwng
Ffyngau | |
---|---|
![]() | |
Amanita'r gwybed (Amanita muscaria) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukarya |
Teyrnas: | Fungi |
Isdeyrnass/Ffyla/Isffyla[1] | |
Dikarya (inc. Deuteromycota) Isffyla incertae sedis |
Grŵp o organebau ewcaryotig ungellog neu amlgellog sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffwng (unigol) neu ffyngau (lluosog), ac sy'n cynnwys micro-organebau fel burum, llwydni, ffwng y gawod a ffwng y penddu, yn ogystal ag organebau mwy o faint fel madarch, caws llyffant, codau mwg a'r gingroen. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn nes at anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwngau.
Mae pob ffwng yn heterotroff. Mae llawer o ffyngau yn saproffytig sy'n bwydo ar organebau marw, ac mae llawer o ffyngau eraill yn barasytig sy'n bwydo ar organebau byw. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, ac yn ffurfio cennau.

Mae ffyngau o bwysigrwydd economaidd yn cynnwys burum a ddefnyddir i wneud cwrw a bara a rhai rhywogaethau o lwydni a ddefnyddir i wneud caws.
StrwythurGolygu
- Celloedd ewcaryotig: mae genynnau pob ewcaryot wedi'u hamgodio mewn DNA. Mae'r cellfur yn debyg i un planhigyn - wedi'i wneud o ficroffibrolion - ond gall fod wedi'i wneud o amrywiaeth o ddeunyddiau (nid dim ond seliwlos fel mewn planhigion) - citin, seliwlos, glwcanau.
- Cnewyllyn wedi'i rwymo â philenni a mitocondria (ewcaryotig).
- Cellbilen gyda reticwlwm endoplasmig.
- DNA mewn cromosomau - rhannu'r celloedd fel mewn ewcaryotau.
- Cellfur wedi'i wneud o gitin.
- Absenoldeb cloroffyl a phlastidau.
Mewn ffyngau mawr mae'r cytoplasm yn aml yn amlgnewyllol..[2]
Grwpiau tacsonomigGolygu
Dosbarthwyd prif ffyla (a elwir weithiau'n 'ddosbarthiadau') ffyngau ar sail nodweddion eu strwythurau atgynhyrchu. Yn 2020 roedd saith ffyla: Microsporidia, Chytridiomycota, Blastocladiomycota, Neocallimastigomycota, Glomeromycota, Ascomycota, a Basidiomycota (gweler yr wybodlen).[3]
ClefydauGolygu
Mae ffyngau'n achosi llawer o glefydau difrifol mewn anifeiliaid a phobl. Gall ffyngau asbergilws achosi necrosis yr ysgyfaint (h.y. mogfa'r fuwch neu'r ffermwr), y system nerfol, ac organau eraill. Gall y ffyngau hyn hefyd gynhyrchu cynhyrchion gwenwynig mewn cydrannau bwydydd, gan achosi mycowenwyniad yn yr anifail sy'n bwyta’r bwyd hwn. Gall y ffwng yr ân (llindag), Candida albicans, achosi haint a llid y gwddf a'r wain. Mae ffyngau dermatoffytig yn effeithio ar groen anifeiliaid a bodau dynol (e.e. tarwden y traed, yr afl, y pen, ayb.). Mae ffyngau a gludir mewn llwch, megis Coccidioides immitis a Histoplasma capsulatum, yn achosi clefyd yr ysgyfaint neu glefyd cyffredinol mewn anifeiliaid a bodau dynol.[2]
TriniaethGolygu
Mae cyffuriau amlyncadwy a/neu gymwysiadau argroenol (hufenau a geliau) yn bodoli er mwyn trin y rhan fwyaf o glefydau ffwngaidd.[2]
Dolenni allanolGolygu
- Bioleg Ffyngau Archifwyd 2009-06-07 yn y Peiriant Wayback. Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Y dosbarthiad a ddefnyddir yma yw'r un a gyflwynwyd yn 2007 gan Hibbett et al.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "A higher-level phylogenetic classification of the Fungi". Mycological Research 111 (Pt 5): 509–47. May 2007. doi:10.1016/j.mycres.2007.03.004. PMID 17572334. Archifwyd o y gwreiddiol ar 26 March 2009. https://web.archive.org/web/20090326135053/http://www.clarku.edu/faculty/dhibbett/AFTOL/documents/AFTOL%20class%20mss%2023%2C%2024/AFTOL%20CLASS%20MS%20resub.pdf.