Tataouine
Dinas yn ne-ddwyrain Tiwnisia yw Tataouine (Arabeg: تطاوين), sy'n brifddinas talaith Tataouine. Ei hen enw oedd Foum Tataouine. Fe'i lleolir 531 kilometer i'r de o Diwnis a thua 85 km i'r de o Gabes ar ymyl anialwch y Sahara. Poblogaeth: 59,346 (2004).
Math | municipality of Tunisia, Imada |
---|---|
Poblogaeth | 95,775 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tataouine, delegation of Tataouine Sud |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 32.9333°N 10.45°E |
Cod post | 3200 |
Ystyr yr enw 'Tataouine', sy'n ffurf Arabeg ar yr enw Berbereg tittawen, yw "ffynnon" neu "ffynhonnell dŵr". Mae'n ddinas werddon sy'n adnabyddus am ei phensaernïaeth dradoddiadol, yn enwedig ei ksars (caerau). Yn y gorffennol byddai carafanau yn cychwyn neu'n cyrraedd Tataouine ar hyd y llwybrau masnach ar draws y Sahara a gysylltai Tiwnisia â gorllewin Affrica.
Twristiaeth ac amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiannau heddiw. Yn weinyddol, fe'i rhennir yn ddau ddosbarth, sef Gogledd a De Tataouine.
I wylwyr ffilmiau mae Tataouine yn adnabyddus fel yr ysbrydoliaeth i'r blaned 'Tatooine', planed dywodlyd yn ffilmiau Star Wars y cynhyrchydd George Lucas.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Arabeg) (Ffrangeg)