Taumatawhakatangi­hangakoauauotamatea­turipukakapikimaunga­horonukupokaiwhen­uakitanatahu

Bryn ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd yw Taumatawhakatangihangakoauauotamateaturipukakapikimaungahoronukupokaiwhenuakitanatahu.

Taumata.

Saif ger tref Porangahau, yn ne ardal Hawke's Bay. Yn Saesneg fe'i gelwir yn lleol yn Taumata Hill. Y bryn yw'r enw lle hiraf un gair yn y byd, gydag 85 llythyren.

Ynganiad golygu

Yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol, gellir ei thrawsgrifio fel [tɐʉmɐtɐ.​ɸɐkɐtɐŋihɐŋɐ.​koːɐʉɐʉ.​ɔ.​tɐmɐtɛɐ.​tʉɾi.​pʉkɐkɐ.​piki.​mɐʉŋɐ.​hɔɾɔ.​nʉkʉ.​pɔkɐi.​ɸɛnʉɐ.​ki.​tɐnɐ.​tɐhʉ]. Yn Maorïeg, mae "wh" yn cael ei ynganu fel "f".

Ystyr yr enw golygu

Yn Gymraeg, mae'n cyfieithu i "Y copa lle chwaraeodd Tamatea, y dyn â'r pengliniau mawr, y llithrydd, dringwr mynyddoedd, y llyncuwr tir a deithiodd o gwmpas, ei kōauau (ffliwt) i'w anwylyd".

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.