Technoleg

(Ailgyfeiriad o Tecnoleg)

Cysyniad eang sy'n ymwneud â defnydd a gwybodaeth rhywogaeth ynglŷn ag offer a chrefftau, a sut mae'n effeithio ar allu rhywogaeth i reoli ac addasu i'w hamgylchedd, yw technoleg. Yn y gymdeithas ddynol, mae'n ganlyniad o wyddoniaeth a pheirianneg. Daw'r term o'r gair Groeg τέχνη (techne, sef "crefft") a'r olddodiad Cymraeg "-eg" ("astudiaeth"). Gall technoleg gyfeirio at ddefnyddiau materol sydd o ddefnydd i ddynoliaeth, megis peiriannau, caledwedd neu daclau, ond gall y cysyniad cynnwys themâu ehangach hefyd, yn cynnwys systemau, cyfundrefnau, a thechnegau.

Erbyn yr unfed ganrif ar hugain mae camau technolegol ym maes roboteg wedi galluogi cynhyrchiad robot a all synhwyro yn union faint o wasgedd sydd angen i ddal gwrthrych fel nad yw'n gollwng a nad yw'n torri
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am technoleg
yn Wiciadur.