Tegell
Mae'r tegell yn declyn yn y gegin a ddefnyddir i ferwi dŵr, gan amlaf i baratoi te neu goffi. Trydan ydy'r rhan fwyaf o degelli y dyddiau hyn; fe'u defnyddir y dyddiau hyn i ferwi dŵr wrth goginio pasta neu reis gan ei bod hi'n ddull cyflymach na phoethi'r dŵr mewn sosban. Yn aml, defnyddir tebot ochr yn ochr gyda'r tegell i ddal y dail te a'r dŵr poeth, er mwyn i'r dail fwydo, fel bod eu blas yn mynd drwy'r dŵr berw.
Daw'r gair tegell (a'r Saesneg "kettle") o'r Lladin catillus, sy'n golygu "bowlen fâs neu ddofn", neu "lestr siap twmffat".