Cymeriad chwedlonol a gysylltir â Llyn Tegid, ger y Bala ym Meirionnydd, yw Tegid Foel. Yn rhan gyntaf y chwedl Hanes Taliesin, sy'n adrodd hanes geni Taliesin Ben Beirdd, mae'n ŵr briod Ceridwen ac yn dad i Forfran a Creirwy (Creirfyw).

Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)

Ffigwr yn y cefndir yn unig yw Tegid Foel yn y chwedl. Cyfeirir ato ar ddechrau'r chwedl fel,

Gŵr bonheddig oedd gynt ym Mhenllyn a elwid Tegid Foel, a'i dreftad oedd yng nghanol Llyn Tegid, a'i wraig briod a elwid Ceridwen, ag o'r wraig honno y ganed mab a elwid Morfran ap Tegid, a merch a elwid Greirfyw, a theckaf ferch o'r byd oedd honno...[1]

Yn ogystal â'r ddau blentyn a enwir yn y chwedl, cyfeirir at y canlynol fel plant Tegid Foel yn yr achau Cymreig:[2]

Degfed ferch Tegid Foel
Dwywau ferch Tegid Foel

Mae'r enw personol Tegid yn dod o'r enw personol Lladin Tacitus, ac felly nid yw'n amhosibl mai cymeriad hanesyddol sydd wedi troi'n ffigwr llên gwerin yw Tegid. Cysylltir Llyn Tegid â chwedl werin am ddinas a foddwyd,[3] ac mae'r ffaith fod Hanes Taliesin yn cyfeirio at Degid fel gŵr a'i diroedd "yng nghanol Llyn Tegid" yn awgrymu iddo gael ei gysylltu â'r brenin dienw yn y chwedl honno. Cofier bod Ceridwen yn dduwies yn wreiddiol ac felly buasai ei "gŵr" yn dduw hefyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. P. K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992).
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 514.
  3. Gweler y fersiwn gan William Rowlands, Chwedlau Gwerin Cymru (1923; sawl argraffiad diweddarach), er enghraifft.