Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam

(Ailgyfeiriad o Teigrod Tamil)


Grŵp arfog sydd wedi bod yn ymgyrchu i greu gwladwriaeth annibynnol o'r enw Tamil Eelam yng ngogledd a dwyrain Sri Lanca yw Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam (Tamileg:தமிழீழ விடுதலைப் புலிகள், Saesneg: Liberation Tigers of Tamil Eelam), a adwaenir yn aml fel yr LTTE neu'r Teigrod Tamil).

Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam
Math
sefydliad gwleidyddol
Sefydlwyd1976
CadeiryddVelupillai Prabhakaran
Daeth i ben2009

Ffurfiwyd y Teigrod Tamil ar 5 Mai 1976 gan Velupillai Prabhakaran, fel olynydd i'r Teigrod Newydd Tamil. Sail eu hymdrech am annibyniaeth oedd fod y farn fod y lleiafrif Tamil yn Sri Lanca yn cael eu trin yn annheg gan y mwyafrif Sinhalaidd. Cawsant fesur o gymorth gan y boblogaeth Talil yn Tamil Nadu, India, a chan bobl o dras Tamil mewn rhannau eraill o'r byd.

Datblygodd ymosodiadau'r Teigrod i roi cychwyn i Ryfel Cartref Sri Lanca, a barhaodd hyd nes iddynt gael eu gorchfygu gan luoedd arfog Sri Lanca ym mis Mai 2009. Am gyfnod, roedd y Teigrod yn rheoli rhan helaeth o ogledd a dwyrain yr ynys. Dechreuwyd trafodaethau heddwch nifer o weithiau, y tro olaf yn 2002. Wedi i'r trafodaethau hyn fethu'n derfynol yn 2006, dechreuodd lluoedd arfog Sri Lanca ar ymgyrch fawr yn eu herbyn, ac yn raddol cipiwyd eu tiriogaethau oddi arnynt. Adroddwyd fod Velupillai Prabhakaran wedi ei ladd yn nyddiau olaf yr ymladd.

Bu'r Teigrod Tamil yn gyfrifol am nifer fawr o ymosodiadau hunanladdiad, yn arbennig llofruddiaeth Rajiv Gandhi.