Teipograffeg
Crefft gosod teip er mwyn gwneud iaith ysgrifenedig yn ddarllenadwy ac yn atyniadol yw teipograffeg.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1e/Type_sample%2C_Pierre_Simon_Fournier%2C_Manuel_Typographique_1766.png/220px-Type_sample%2C_Pierre_Simon_Fournier%2C_Manuel_Typographique_1766.png)
Teipograffeg yw gwaith cysodwyr, teipograffwyr, dylunwyr graffig, ac eraill. Hyd yr oes ddigidol, roedd teipograffeg yn alwedigaeth arbenigol; fodd bynnag, mae technoleg gyfrifiadurol wedi rhoi cyfle i lawer o ddylunwyr a defnyddwyr lleyg ymgymryd â gwaith teipograffig.