Emylsiwn solet meddal bwytadwy melynaidd neu wynaidd o fraster llaeth, dŵr ac aer yw menyn. Gwneir menyn trwy gorddi o hufen y llaeth cyflawn. Mae'r braster llaeth yn cynnwys globylau braster (80 %), swigod aer, defnynnau dŵr a phrotein llaeth. Defnyddir menyn yn yr un modd ag olew, lard a margarîn i baratoi bwyd, er enghraifft i goginio neu i'w daenu ar fara. Ychwanegir halen, hefyd yn aml.

Menyn
Enghraifft o'r canlynolcynhwysyn bwyd Edit this on Wikidata
Mathcynnyrch llaeth, Q26869352, Q26882158, braster taenadwy Edit this on Wikidata
Deunyddhufen, llaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 8. CC Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbraster Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae menyn yn meddalu mewn tymheredd ystafell, ac yn ymdoddi'n hawdd. Mae lliw menyn yn dibynnu ar fwyd y fuwch a gall fod yn felyn neu'n wyn. Fel arfer, mae menyn yn felyn yn ystod yr haf pan mae'r buchod yn bwyta llawer o laswellt ffres ac yn wyn yn ystod y gaeaf pan maen nhw'n bwyta gwair yn bennaf.

Arferion ers talwm golygu

Rhan o ysgrif i’w gweld yn Bwletin Llên Natur:

“Wedi cael potiaid o hufen, byddai rhaid iddo fod mewn lle eitha cynnes yn y gaeaf, ac yn aml iawn dygid ef i'r pentan iddo dewychu a suro yn barod at ddiwrnod y corddi. Byddai dwy fath ar fuddeiau yn gyffredin, yr hen fuddai gnoc, a'r fuddai ffasiwn newydd, yr end over end. ' Roedd hon wedi ei gosod ar ffrâm ar osgo arbennig wrth ei throi drosodd i gorddi. Gwres arferol y llaeth i'w gorddi fyddai oddeutu 65 gradd fahrenheit. Byddai gwres fesuredd [sic.] arbennig i'w gael at y gwaith hwn. I droi y fuddai â llaw fyddai hi ran amlaf, er byddai gan rai ffermydd bwer olwyn ddwr, neu bwer ceffyl. Tynnu y byddai'r ceffyl wrth bolyn cryf mewn cylch cyfyngedig ar ddyfais gyda werthyd [sic.] hir i'r llaethdy i droi'r fuddai. Rhyw hanner awr fel rheol fyddai potiaid cyffredin yn cymryd i gorddi. Gallech weld ar wydr bach oedd ar gaead y fuddai, os byddai yn lan yna byddai yn barod - y mân ronynnau o fenyn wedi ymgydio ynghyd gan adael y llaeth enwyn ar ôl. Yn awr, byddai gwraig y tŷ yn barod i'r gorchwyl o drin cynnwys y fuddai. Codid y menyn yn ofalus i'r noe a chadw'r llaeth enwyn mewn pot at y pwrpas. Gwaith llaw fyddai trin y menyn, ei droi yn y noe gan ei wasgu ar ei ochr er ceisio cael y cyfan o'r llaeth ohono. Defnyddid yr un term a'r gwair, sef 'cweirio menyn'. Ychwanegu halen a'i weithio yn ofalus i'r menyn fel y ceid unffurfiaeth blas ar y cyfan. Yna pwysid y menyn bob yn bwys ar glorian a byddai angen dipyn o arferiad i'w weithio yn bwys crwn deniadol. I'r gwaith hwn defnyddid math ar soser bren a elwid yn gyffredin yn 'scimar' gan ei gylchdroi gyda'r llaw nes byddai yn llyfn grwn a phigfain. Byddai'r print yn cwblhau'r gwaith, amrywiol luniau wedi eu cerfio yn y pren, llun alarch, dwy fesen, neu hyd yn oed llun buwch. Yna, yn ofalus iawn, pwyo ar y pen main i lawr i bellter neilltuol gan geisio cadw pob pwys yn unffurf gan adael delw'r print yn amlwg iawn ar y cyfan cyn ei gosod ochr yn ochr ar y llechen fenyn i galedu cyn i'r 'gwr hel menyn' alw i'w gasglu. Pan fyddai'r gwartheg ar adlodd ym mis Medi, byddai'n ofynnol darparu erbyn y gaeaf pan fyddai'r llaeth yn brin. Pot llaeth a thrwch o halen ar ei wyneb i'w selio rhag amhuredd a hwn fyddai menyn y teulu am y gaeaf. Menyn pot, a blasus iawn fyddai cael menyn ffres os deuai pobl ddiarth i de.”[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Godro a Menyn", Bwletin Llên Natur 65 (Gorffennaf 2013)