Teisen hufen

pastai seiliedig ar gwstard

Math o gacen neu deisen yw teisen hufen sydd â hufen fel un o'i brif gynhwysion. Ceir sawl math o deisen hufen ac nid oes diffiniad manwl o'r term. Gall yr hufen fod yn y deisen ei hun a/neu ar ei phen.

Teisen hufen banana.

Teisen hufen Gymreig golygu

Yng Nghymru ceir math arbennig o deisen hufen draddodiadol a wneir gyda blawd, siwgr gwyn, wyau a hufen ffres.[1]

Yn ôl rysáit traddodiadol o ardal Morgannwg, dylid cymysgu'r siwgr a'r blawd mewn dysgl a thorri wy ynddo a'i guro gyda fforc. Wedyn ychwanegir yr hufen ffres a chymysgu'r cyfan yn dda. Yn yr hen amser rhoddid y cymysgedd, sy'n debyg i gytew crempog, fesul llond llwy bwrdd ar faen poeth i'w crasu, ond mewn cegin fodern gellir gwneud yr un fath dan y gridyll hefyd, gyda gofal, gan grasu'r teisennau ar y ddwy ochr hyd nes eu bod o liw coch ysgafn ar y tu allan.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 S. Minwell Tibbot, Amser Bwyd (Amgueddfa Werin Cymru, 1974), tud. 35.