Hufen
Mae hufen yn gynnyrch llaeth a ddaw o'r haenen sydd yn cynnwys lefel uwch o fraster menyn oddi ar dop llefrith cyn iddo gael ei homogeneiddio. Bydd y braster sy'n ysgafnach na'r hylif yn codi i dop y botel dros gyfnod o amser, mewn llefrith sydd heb gael i homogeneiddio. Cyflymir y broses hon yn y ddiwydiant cynhyrchu gan ddefnyddio allgyrchydd a gaiff ei alw'n "wahanwyr". Gwerthir hufen ar sail y cynnwys braster mewn nifer o wledydd. Gall hufen gael ei sychu i ffurf powdr ar gyfer ei allforio i farchnadoedd pell.
Math | cynnyrch llaeth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn aml, mae hufen a gynhyrchir gan wartheg (yn arbennig gwartheg Jersi) sy'n pori ar borfa naturiol, yn cynnwys rhai pigmentau carotenyn sy'n deillio o'r planhigion maent yn eu bwyta; mae hyn yn rhoi lliw melyn golau i'r hufen, a dyna beth roddir yr enw i'r lliw hufen. Gwyn yw'r hufen a gynhyrchir gan wartheg sy'n gael eu bwydo dan do, ar rawn neu belenni sydd wedi eu creu o rawn.
Mathau o hufen
golyguDiffinnir y gwahanol fathau o hufen yng ngwledydd Prydain yn gyfreithiol fel yr isod[1]:
Enw | Isafswm braster |
Diffiniad ychwanegol | Prif defnydd |
---|---|---|---|
Hufen tolch | 55% | wedi ei drin gyda gwres | Gyda sgon a jam |
Hufen dwbl | 48% | yn chwipio orau, ar gyfer pwdinau, gall cael ei beipio | |
Hufen chwipio | 35% | yn chwipio'n dda ond yn ysgafnach | |
Hufen chwisgiedig | 35% | wedi cael ei chwipio | |
Hufen wedi ei sterileiddio | 23% | wedi ei sterileiddio | |
Hufen sengl | 18% | heb ei sterileiddio | yn cael ei arllys ar bwdinau neu mewn coffi |
Hufen hanner wedi ei sterileiddio | 12% | wedi ei sterileiddio | |
Hufen hanner | 12% | heb ei sterileiddio | defnyddir mewn coffi yn unig |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Cheese and Cream Regulations 1995 (SI 1995 No. 3240) ISBN 0110538536