Teleri Bevan
Darlledwraig a chynhyrchydd radio-a-theledu o Gymraes oedd Teleri Bevan (11 Ebrill 1931 – Tachwedd 2020)[1]. Hi oedd golygydd cyntaf BBC Radio Wales.
Teleri Bevan | |
---|---|
Ganwyd | Gwenfair Teleri Phillips 11 Ebrill 1931 Aberystwyth |
Bu farw | Tachwedd 2020 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cynhyrchydd teledu, gweithredwr darlledu |
Cyflogwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd ar fferm ger Aberystwyth ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Bangor.[2] Ei rhieni oedd Dr Richard Phillips, Llangwyryfon ac Eiddwen.[3]
Gyrfa
golyguTreuliodd bedwar degawd gyda'r BBC gan weithio fel cyfwelydd, cynhyrchydd, golygydd a rheolwr. Yn y 1960au bu'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni teledu Cymraeg fel Telewele a Gwraig Y Ty.
Bu'n gynhyrchydd gyda BBC Radio 4 cyn cychwyn fel golygydd cyntaf Radio Wales ac roedd yn gyfrifol am lansio'r sianel yn 1978.
Hi oedd yr unigolyn olaf o'r cyfryngau i gyfweld Indira Ghandi cyn ei llofruddiaeth chwe mis yn ddiweddarach.
Ymddeolodd fel Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1991. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Years on Air: Living with the BBC yn 2004.
Ysgrifennodd sawl llyfr am hanes merched Cymreig - The Ladies of Blaenwern a hanes Esme Kirby, sylfaenydd Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri - Esme - Guardian of Snowdonia.
Marwolaeth
golyguBu farw yn 89 oed. Wrth dalu teyrnged iddi dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ei bod yn "arloeswr yn natblygiad darlledu yng Nghymru" ac yn "ffigwr unigryw". Dywedodd hefyd "Dylem gofio hefyd i Teleri dorri tir newydd i fenywod ym maes darlledu. Bu iddi gefnogi a hyrwyddo rôl menywod ar draws y cyfryngau - a hynny ar draul bersonol eithriadol - a gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddechrau dadwneud degawdau o siofiniaeth yn y diwydiant.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Teleri Bevan, 'arloeswr darlledu yng Nghymru' wedi marw , BBC Cymru Fyw, 18 Tachwedd 2020.
- ↑ Years on Air - Living with the BBC. Gwales.
- ↑ Ymlaen A'r Sioe/On with the Show