Rhodri Talfan Davies

Cyfarwyddwyr BBC Cymru Wales ers Medi 2011 yw Rhodri Talfan Davies (ganwyd 9 Chwefror 1971) . Mae'n aelod o fwrdd rheoli'r BBC,[1] ac yn gyn-newyddiadurwr a gweithredwr cyfathrebu.[2]

Rhodri Talfan Davies
Ganwyd9 Chwefror 1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadGeraint Talfan Davies Edit this on Wikidata

Bywyd personol ac addysg

golygu

Ganwyd Davies yng Nghaerdydd ym 1971 i Elizabeth Siân Vaughan Yorath a Geraint Talfan Davies, cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru a chyn rheolwr BBC Cymru Wales.[3]

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, ac Ysgol Ramadeg Brenhinol, Newcastle upon Tyne, ac aeth Davies ymlaen i astudio fel myfyriwr israddedig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (BA Anrh), a derbyniodd ddiploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.[3]

Cychwynnodd gyrfa Davies gyda chyfnod byr fel is-olygydd ar y Western Mail yn 1993. Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r BBC fel newyddiadurwr dan hyfforddiant, lle arhosodd fel cynhyrchydd a gohebydd newyddion tan 1999.[3]

Roedd Davies yn bennaeth rhaglenni rhanbarthol gyda BBC West ym Mryste rhwng 1999 a 2001, gan gymryd gofal o wasanaethau teledu, ar-lein a radio lleol ar draws y rhanbarth. Gadawodd y BBC yn 2001 i fod yn gyfarwyddwr teledu ar y cwmni newydd Homechoice (TalkTalk TV bellach). Yn 2005, penodwyd ef yn bennaeth marchnata teledu gyda'r gweithredwr cebl ntl.[4]

Yn 2006 dychwelodd Davies i'r BBC fel pennaeth strategaeth a chyfathrebu. Penodwyd ef yn gyfarwyddwr BBC Cymru Wales ym mis Medi 2011.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Biography. BBC.
  2.  BBC - Press Office - Rhodri Talfan Davies appointed Director, BBC Cymru Wales. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 (2014) Who's Who 2015. Reference Library: Bloomsbury. ISBN 9781408181201
  4. 4.0 4.1  Rhodri Talfan Davies replaces Menna Richards as director of BBC Wales. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2015.

Dolenni allanol

golygu