Dyma'r gyfrol o gerddi a enillodd i Gynan y wobr am gyfrol lenyddol (belles lettres) mewn barddoniaeth neu ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1920. Roedd un ar bymtheg wedi cynnig am y wobr o bum punt ar hugain. Prif thema Cynan oedd rhyfel, a'r Rhyfel Byd Cyntaf newydd orffen.

Telyn y Nos
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata

Dyma beth ysgrifennodd y beirniaid:

"Ni raid mwy na darllen y 'Gair at y Darllenydd' ar y dechrau i weld fod mwy i wreiddioldeb ac annibyniaeth meddwl ac arddull gan yr awdur hwn na chan yr uno'r lleill. Telyn y Nos y dewisodd alw ei gyfrol: barddoniaeth y Rhyfel ydyw, cri enaid cywir ac awen feiddgar o ganol caddug uffernol y Rhyfel Mawr."[angen ffynhonnell]

Cyhoeddwyd y gyfrol yn 1921 gan William Lewis (Argraffwyr) Cyf., Caerdydd, yng nghyfres yr Enfys.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.