Alan Llwyd

bardd Cymreig

Bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau yw Alan Llwyd (ganwyd Alan Lloyd Roberts, 1948).

Alan Llwyd
Ganwyd1948 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, sgriptiwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Flodeugerdd Englynion Newydd, Anghenion y gynghanedd Edit this on Wikidata
Peidiwch â chymysgu'r llenor hwn â'r awdur Alun Llwyd.

Gyrfa golygu

Fe'i ganwyd yn Dolgellau, Gwynedd[1] lle bu'n byw nes oedd yn bump oed; symudodd i fferm yn Nghilan, Pen Llŷn.[2] Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac wedi graddio yno yn y Gymraeg, bu'n rheoli siop lyfrau yn y Bala cyn symud i ardal Abertawe er mwyn gweithio i gwmni cyhoeddi Christopher Davies. Ar ôl cyfnod yn gweithio i CBAC treuliodd weddill ei yrfa fel golygydd amser-llawn gyda Barddas, cylchgrawn y bu'n gyfrifol am ei sefydlu gyda Gerallt Lloyd Owen.

Enillodd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, dim ond yr ail fardd i wneud hynny yn hanes yr Eisteddfod.

Enillodd y Gadair am y trydydd tro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ac ef oedd y bardd cyntaf i wneud hynny ers llacio'r rheol 'ennill dwywaith yn unig'.[3]

Mae'n awdur toreithiog, gyda sawl cyfrol o farddoniaeth a beirniadaeth wedi eu cyhoeddi yn cynnwys cofiannau Hedd Wyn a Goronwy Owen. Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn (1992). Yn ddiweddar fe olygodd Cymru Ddu, hanes pobl du Cymreig.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pwy 'di Pwy: Alan Llwyd". BBC.
  2. Gwefan Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2014-05-23 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 18 Mai 2014.
  3. Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 11 Awst 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.