Telynegion (Silyn a Gruffydd)

Cyfrol o farddoniaeth Gymraeg gan R. Silyn Roberts ac W. J. Gruffydd yw Telynegion. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol yn 1900.

Disgrifiad

golygu

Cyfrol o gerddi, y mwyafrif ohonynt (ond nid pob un) yn delynegion o ran eu mesur yw hon a luniwyd gan y ddau fardd yn ystod Haf 1899. Roedd Gruffydd yn lanc bedwar ar bymtheg oed ar y pryd, deng mlynedd yn iau na Silyn, ac ar fin gadael am Brifysgol Prifysgol Rhydychen. Bu Silyn yn ddylanwad hynod bwysig ar y bardd ifanc: yn sgil eu partneriaeth perswadiwyd Gruffydd i farddoni yn Gymraeg, ac yn null rhamantaidd y bardd hŷn.[1]

Silyn oedd prif awdur y gyfrol: nododd Gruffydd yn ddiweddarach na chafodd yntau odid ddim dylanwad ar gyfraniadau Silyn i'r gyfrol, er i Silyn fynnu gwneud nifer o newidiadau i'w gerddi ef). Cerddi serch hiraethus yw mwyafrif helaeth y cerddi yn y gyfrol. Nid yw'r gyfrol yn nodi pa un o'r ddau fardd yw awdur y cerddi unigol. Fodd bynnag ymddangosodd rhai o gerddi'r gyfrol yn ddiweddarach dan enwau eu hawduron mewn cyfnodolion fel Cymru, ac mae'r beirdd yn tueddu defnyddio'r un enwau i gyfeirio at y merched sy'n destunau'r cerddi serch ("Men", "Menna" ac "Olwen" gan Gruffydd a "Rhiannon" gan Silyn).

Beirniadaeth

golygu

Er nad ydynt yn ddadleuol iawn yn ôl safonau cyfoes, yn ôl safonau llednais yr oes gellid ystyried y cerddi'n gymharol beiddgar. Disgrifiodd T. Robin Chapman derbyniad y gyfrol ar y pryd fel un "brwd ond cyfyng."[1] Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl, tueddir i ystyried y cyhoeddiad yn arwydd bod cyfnod newydd mewn barddoniaeth Gymraeg wedi cyrraedd,[2] a chymharodd un beirniad cyhoeddi'r gyfrol gyda chyhoeddiad y gyfrol Saesneg Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge, a gyhoeddwyd yn 1798, gyda'r ddwy gyfrol yn cynrychioli dechrau mudiad rhamantaidd barddonol newydd yn y naill iaith neu'r llall.[3]

Ni chafwyd ail-argraffiad o'r gyfrol ac mae'n arwyddocaol efallai na gynhwysodd Gruffydd yr un o'i gerddi o'r gyfrol wrth wneud detholiadau o'i farddoniaeth yn ddiweddarach; tueddir i ystyried cyfraniadau Gruffydd i'r gyfrol yn waith prentisiol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Chapman, T. Robin (1993) W. J Gruffydd (Dawn Dweud) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 14
  2. Llwyd, Alan (2017) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, Cyhoeddiadau Barddas t. 140.
  3. T. H. D. (1930) 'Silyn', Welsh Outlook, 17-11, t.291