William John Gruffydd
Ysgolhaig, bardd a golygydd Cymreig oedd William John Gruffydd neu W. J. Gruffydd (14 Chwefror 1881 – 29 Medi 1954). Bu'n Aelod Seneddol dros sedd Prifysgol Cymru o 1943 i 1950.
William John Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1881 Bethel |
Bu farw | 29 Medi 1954 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwobr/au | Q126658920 |
- Gweler hefyd: William John Gruffydd (Elerydd)
Bywgraffiad
golyguGaned ef yng Nghorffwysfa, Bethel (Gwynedd), yn fab i John a Jane Elisabeth Griffith. Roedd yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Sir Caernarfon, yna bu'n fyfyriwr Coleg yr Iesu, Rhydychen, lle cymerodd radd mewn llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares o 1904 hyd 1906, pan benodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Penodwyd ef yn Athro yno pan ddychwelodd o'r llynges yn 1918, a bu yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1946.
Fel ysgolhaig, gwnaeth lawer o waith ar Bedair Cainc y Mabinogi. Cyhoeddodd Math vab Mathonwy ar y bedwaredd gainc yn 1928, a Rhiannon yn 1953. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Daeth yn fwyaf amlwg fel bardd, gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 am Yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddodd Ynys yr hud a chaneuon eraill yn 1923. Bu'n olygydd Y Llenor o'i gychwyniad yn 1922, a chyhoeddodd nifer fawr o ysgrifau ynddo.
Bu'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer, ond yn 1943 safodd fel ymgeisydd Seneddol am sedd Prifysgol Cymru fel Rhyddfrydwr, yn erbyn Saunders Lewis oedd yn sefyll dros y Blaid. Gruffudd a etholwyd, a daliodd y sedd hyd 1950, pan ddaeth seddi’r Prifysgolion i ben.
Enghraifft o gerdd
golyguMae ei gerdd 1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen yn gignoeth ac mae W. J. yn gweld bai ar y genhedlaeth hŷn am y Rhyfel Mawr. Milwr ifanc sy'n canu:
- Nyni oedd biau'r gwanwyn gwyrdd,
- Ac eiddom ni bob glendid greddf
- Ni oedd gariadon hyd y ffyrdd
- Yn nistaw hwyr yr hydref lleddf,
- Pob breuddwyd teg a phurdeb bryd,
- Pob gobaith, pob haelioni hir,
- Pob rhyw ddyheu am lanach byd,
- Pob tyfiant cain, pob goleu clir.
- Nyni yw'r rhai fendithiodd Duw
- A'r dewrder mawr heb gyfri'r gost
- Ni oedd yn canu am gael byw,
- A byw a bywyd oedd ein bôst.
- Ohonom nid oes un yn awr,-
- Aeth bidog drwy y galon lân,
- Mae'r ffosydd dros y dewrder mawr,
- Mae'r bwled wedi tewi'r gân.
- Pan gerddoch chwi, hen ddynion blin,
- Hyd lwybrau'r wlad, ni'ch blinir fawr
- Gan sibrwd isel, fin wrth fin,
- Mae r cariad wedi peidio'n awr.
- Mae melltith ar ein gwefus ni
- Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
- Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
- Wrth gofio nad awn byth yn hen.
Gweithiau
golygu- W. J. Gruffydd, Dros y Dŵr (1928) [Drama]
- Sophocles, troswyd i’r Gymraeg gan W. J. Gruffydd, Antigone (Caerdydd, 1988).
- W. J. Gruffydd, Beddau’r Proffwydi (Caerdydd, 1913). [Drama]
- W. J. Gruffydd, ‘Diorseddiad Rheswm’, Tir Newydd, rhif 14 (Tachwedd 1938), tt. 19–22.
- A. Maude Royden, troswyd i’r Gymraeg gan W. J. Gruffydd, (Caerdydd, 1915).
- W. J. Gruffydd, ‘Bledhericus, Bleddri, Bréri’, Revue Celtique, vol. 33, rhif 4 (Paris, 1912), tt. 180–183.
- W. J. Gruffydd, Caneuon a Cherddi (Bangor, 1906). [Barddoniaeth]
- W. J. Gruffydd, Caniadau (Y Drenewydd, 1932). [Barddoniaeth]
- W. J. Gruffydd, Ceiriog (Llundain, 1939). [Beirniadaeth lenyddol]
- W. J. Gruffydd, The connection between Welsh and Continental literature in the 14th and 15th centuries (Caerdydd, 1909).
- Goronwy Owen, (gol.) W. J. Gruffydd, Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907). [Gyda rhagymadrodd gan W. J. Gruffydd]
- W. J. Gruffydd, Dafydd ap Gwyilym (Caerdydd, 1935).
- W. J. Gruffydd, (gol.) Bobi Jones, Detholiad o Gerddi W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1992).
- W. J. Gruffydd, ‘Donwy’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, Vol. 7, Pt. 1 (Nov. 1933), tt. 1–4.
- W. J. Gruffydd, Dyrchafiad arall i Gymro (Caerdydd, 1914). [Drama]
- W. J. Gruffydd, Y flodeugerdd newydd (Caerdydd, 1909).
- W. J. Gruffydd, Folklore and myth in the Mabinogion (Caerdydd, 1958).
- W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938).
- W. J. Gruffydd, Hen Atgofion (Aberystwyth, 1936). [Rhyddiaith]
- W. J. Gruffydd, (gol.) Bobi Jones, Yr Hen Ganrif: Beirniadaeth lenyddol W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1991).
- W. J. Gruffydd, ‘Iolo Goch’s “I Owain Glyndwr ar ddifancoll”’, Y Cymmrodor, vol. XXI (Llundain, 1908), tt. 105–112
- W. J. Gruffydd, C, (, 19). New Welsh Review 6/4 (1994), p. 39–42
- W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl, 1922). [Beirniadaeth lenyddol]
- W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru, rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926). [Beirniadaeth lenyddol]
- W. J. Gruffydd, Llythyrau’r Morysiaid (Caerdydd, 1940).
- W. J. Gruffydd, The Mabinogion (Llundain, 1913).
- W. J. Gruffydd, Blodeuglwm o Englynion (Caerdydd, dim dyddiad). [englynion wedi’i dethol a’i golygu gab W. J. Gruffydd]
- W. J. Gruffydd, Y Flodeugerdd Gymraeg (Caerdydd, 1931).
- (gol.) W. J. Gruffydd a G. J. Williams, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938, Barddoniaeth a Beirniadaethau (Lerpwl, 1938).
- Alafon, W. J. Gruffydd ac Eifion Wyn, Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, Yr Awdl, Y Bryddest A’r Telynegion (Caernarfon, 1902).
- W. J. Gruffydd, ‘Donwy’ a ‘Pangur’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, VII (Rhydychen, 1933), tt. 1–4.
- W. J. Gruffydd, ‘Mabon ab Modron’, Revue Celtique, vol. 33, rhif 4 (Paris, 1912), tt. 452–261.
- W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy : an inquiry into the origins and development of the fourth branch of the Mabinogi (Caerdydd, 1938). [Beirniadaeth lenyddol]
- W. J. Gruffydd, ‘Morgan Llwyd a Llyfr y Tri Aderyn’, Y Cofiadur, rhif 3 (Mawrth 1925), tt. 4–21.
- W. J. Gruffydd, ‘Nodiadau ar waith Dafydd ap Gwilym’, Bulletin Board of Celtic Studies, vol. 8, pt. 4 (Mai 1937), tt. 301–306.
- W. J. Gruffydd, Rhiannon (Caerdydd, 1953). [Beirniadaeth lenyddol]
- R. Silyn Roberts a W. J. Gruffydd, Telynegion (Bangor, 1900). [Barddoniaeth]
- W. J. Gruffydd, Y Tro Olaf (Aberystwyth, 1939).
- W. J. Gruffydd, Wil Ni (Lerpwl, 1962).
- W. J. Gruffydd, cyfieithiad D. Myrddin Lloyd, The Years of the Locust (Llandysul, 1976).
- W. J. Gruffydd, ‘Yn ôl i’r Simnai Fawr’, Allwedd y Tannau, rhif 67 (2008), tt. 69–74.
- W. J. Gruffydd, Ynys yr Hud a chaneuon eraill (Caerdydd, 1923). [Barddoniaeth]
- W. J. Gruffydd, ‘Bethesda’r Fro’, yn (deth.) T. Rowland Hughes, Storïau Radio (Llandysul, 1941), tt. 11–18.
- W. J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cofiant Cyfrol I, 1858–1883 (Aberystwyth, 1937).
- W. J. Gruffydd, Y Morysiaid (The Morris Brothers) (Caerdydd, 1939).
- W. J. Gruffydd, gyda rhagymadrodd a sylwadau gan T. Robin Chapman, Nodiadau’r Golygydd (Llandybïe, 1986).
- W. J. Gruffydd, ‘Foreword’, Dim awdur, A New University of Wales (Caerdydd, 1945), tt. 3–4.
- W. J. Gruffydd, Rhagarweiniad i Farddoniaeth Cymru cyn Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1937).
- W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 26–27.
- W. J. Gruffydd, ‘Dyma Farn W. J. Gruffydd Am Lyfrau Hugh Evans, Gwasg “Y Brython”’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 32.
- W. J. Gruffydd, C, (, 19).
- W. J. Gruffydd, Islwyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942) [Beirniadaeth lenyddol]
- W. J. Gruffydd, Cofiant O. M. Edwards (1937) [Rhyddiaith]
- (Gol.) W. J. Gruffydd, Perl mewn adfyd (Huw Lewys), argraffiad newydd (1929)
Astudiaethau
golygu- Dafydd Johnson, ‘Misanthropic Humanist’, The New Welsh Review, rhif 24 (Spring 1994).
- T. Robin Chapman, ‘Cyffes cofiannydd’, Llais Llyfrau (Hydref 1994), tt. 6–7.
- T. Robin Chapman, Dawn Dweud: W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1993).
- Meredydd Evans, ‘Gwelodd hwn harddwch’, Y Casglwr, rhif 13 (Mawrth 1981), t. 13.
- Pennar Davies, ‘Gyda men yng ngwlad barddoniaeth: llencyndod W. J. Gruffydd’, Fflam, rhif 11 (Awst 1952), tt. 2–6.
- D. Tecwyn Lloyd, ‘Peth o farddoniaeth W. J. Gruffydd: ystyriaeth’, Llên cyni a rhyfel a thrafodion eraill (1987) tt. 79–95.
- D. Tecwyn Lloyd, ‘W. J. Gruffydd: Beirniad Dywilliant a Golygydd’, Llên cyni a rhyfel a thrafodion eraill, (1987) tt. 103–128.
- Aneurin ap Talfan, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 4–5.
- Glyn M. Aston, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 5–7.
- G. G. Evans, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 7–8.
- Idris Ll. Foster, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 8–9.
- Ll, Wyn Griffith, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 9–10.
- Glyn Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 11–12.
- Gwilym R. Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 12–13.
- T. Gwynn Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 13–16.
- Saunders Lewis, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 16–17.
- D. Myrddin Lloyd, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 17–19.
- R. Williams-Parry, ‘W. J. G.’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 19. [Soned]
- T. H. Parry-Williams, ‘Wrth Gofio’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 20. [Soned]
- Iorweth C. Peate, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 20–22.
- W. H. Reese, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 22–25.
- Lotta Rowlands, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 25.
- Meredydd Evans, ‘W. J. Gryffudd a’r Gymraeg’, Taliesin, rhif 69 (Mawrth 1990), tt. 73–88.
- Marian Goronwy-Roberts, W. J. Gruffydd (Gwynedd, 1981).
- Meinir Pierce Jones, ‘W. J. Gruffydd’, yn (gol.) Robert Rhys, Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1), tt. 53–64.
- Marian Goronwy-Roberts, ‘W. J. Gruffydd’ (Gwynedd, 1981).
- T. J. Morgan, W. J. Gruffydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1970)
- Geraint Bowen (gol.), Bro a Bywyd: W. J. Gruffydd 1881-1954 (Barddas, 1994)