Mewn barddoniaeth, ceir terfyniad diacen pan fo'r acen yn syrthio ar y goben, neu'r sillaf olaf ond un mewn llinell.

Enghraifft o derfyniad diacen yw'r llinell enwog:

Rhwydd gamwr hawdd ei gymell (Thomas Richards, Y Ci Defaid)

Bron yn ddieithriad yn y Gymraeg, syrth acen geiriau lluosill ar y goben.

Mewn pennill o gywydd deuair hirion, rhaid i'r naill linell neu'r llall ym mhob cwpled fod â therfyniad diacen.

Gelwir terfyniad diacen yn derfyniad disgynedig yn aml.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.