Terfyniad acennog
Mewn barddoniaeth, ceir terfyniad acennog pan fo'r acen yn syrthio ar y sillaf olaf yn y llinell.
Enghraifft o derfyniad acennog yw'r llinell enwog:
- Yw camp hwn yn y cwm pell. (Thomas Richards, Y Ci Defaid)
Yn y llinell hon, mae'r acen yn syrthio ar y sillaf olaf, sef pell.
Rhaid gochel y bai trwm ac ysgafn gyda therfyniad acennog; er enghraifft ni odla sillaf drom, pen, gyda sillaf ysgafn, hen.
Mewn pennill o gywydd deuair hirion ac esgyll englyn unodl union, rhaid i'r naill linell neu'r llall fod â therfyniad acennog.
Gan amlaf, mae terfyniad acennog yn golygu gair unsill gan fod yr acen mewn geiriau lluosill fel arfer yn syrthio ar y goben, ond ceir eithriadau, fel erioed a'r terfyniad berfenwol au fel y ceir yn mwynhau, glanhau ac ati. Digwydd y terfyniad hwn mewn 3.2% o holl ferfau'r Gymraeg.
Nodir yr acen gyda'r symbol ’.
Gelwir terfyniad acennog yn derfyniad dyrchafedig yn aml.