The Cocktail Waitress

Nofel gan James M. Cain yw The Cocktail Waitress. Hon yw'r nofel olaf gan Cain, fu farw pan oedd yn ei hadolygu ym 1977. Cyhoeddwyd o'r diwedd ym mis Medi 2012 gan y cyhoeddwr Hard Case Crime, a dreuliodd naw mlynedd yn dod o hyd i'r llawysgrif ac yn ennill hawliau cyhoeddi.[1] Golygwyd y llawysgrif gan Charles Ardai, sefydlwr Hard Case Crime, a ddaeth o hyd iddo ar ôl clywed stori gan yr awdur Max Allan Collins am "nofel goll" gan Cain.[2][3] Yn ôl bookreporter.com, cyhoeddiad y nofel hon oedd "digwyddiad llenyddol pwysicaf 2012".[4]

The Cocktail Waitress
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJames M. Cain Edit this on Wikidata

Plot golygu

Mae'r nofel yn dweud stori Joan Medford, gweddw ifanc sy'n gweithio mewn lolfa goctel a'r femme fatale sy'n adrodd y stori.[5]

Derbyniad beirniadol golygu

Cymharodd nifer o feirniaid The Cocktail Waitress gyda nofelau enwocaf Cain, The Postman Always Rings Twice a Double Indemnity. Yn ôl Laura Wilson yn The Guardian, nid yw The Cocktail Waitress yn gystal â'r ddwy nofel honno ond mae ganddi ddiweddglo sy'n "real shocker" ac yn werth ei darllen.[6] Cytunodd Brian Bethune yng nghylchgrawn Maclean's bod y diweddglo yn nodweddiadol o athrylith Cain yn ei genre.[7] Datganodd Michael Connelly yn The New York Times bod y nofel "yn sicr yn adlonni, ond hefyd yn siomi".[8] Disgrifiodd Alice Charles o The Huffington Post Joan Medford fel "arwres y gallem ni i gyd ei chefnogi", ond beirniadodd y plot am gael gormod o gyd-ddigwyddiadau y gellir wedi eu hepgor.[9] Derbynnodd y nofel adolygiad llawn clod gan Vance Garnett yn The Washington Times, a gynghorodd i ddarllenwyr sy'n newydd i waith Cain i gychwyn â'r nofel hon.[10] Ar y llaw arall ysgrifennodd Len Gutkin adolygiad negyddol yn y Los Angeles Review of Books, gan ddisgrifio'r nofel yn "eitha' llugoer" ac yn debyg i weithiau olaf eraill Cain, heb fedr ei nofelau cynnar.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Lost James M Cain novel to be published. BBC (21 Medi 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2011.
  2. (Saesneg) DuChateau, Christian (26 Medi 2012). Long-lost noir masterpiece finally found. CNN. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
  3. (Saesneg) Ardai, Charles (27 Medi 2012). The discovery of James M. Cain's lost novel The Cocktail Waitress. The Independent. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
  4. (Saesneg) Callahan, Tom (21 Medi 2012). Review: The Cocktail Waitress. bookreporter.com. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
  5. (Saesneg) Flood, Alison (20 Medi 2011). Lost novel by noir giant James M Cain discovered. The Guardian. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  6. (Saesneg) Wilson, Laura (18 Hydref 2012). Crime novels - review. The Guardian. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  7. (Saesneg) Bethune, Brian (19 Hydref 2012). REVIEW: The Cocktail Waitress. Maclean's. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  8. (Saesneg) Connelly, Michael (21 Medi 2012). Last Call: ‘The Cocktail Waitress,’ by James M. Cain. The New York Times. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  9. (Saesneg) Charles, Alice (11 Medi 2012). Review of James M Cain's The Cocktail Waitress. The Huffington Post. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  10. (Saesneg) Garnett, Vance (25 Hydref 2012). James M. Cain and "The Cocktail Waitress". The Washington Times. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  11. (Saesneg) Gutkin, Len (16 Medi 2012). The Terrifying Wish that Comes True: On Cain's 'The Cocktail Waitress'. Los Angeles Review of Books. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.