Double Indemnity
Nofel fer yn y genre hardboiled gan James M. Cain yw Double Indemnity. Cyhoeddwyd fel cyfres o wyth pennod yn y cylchgrawn Liberty ym 1936, a chyhoeddwyd ar ffurf nofel ym 1943.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | James M. Cain |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1943 |
Plot
golyguYn y nofel mae'r adroddwr, asiant yswiriant o'r enw Walter Huff, yn cwympo mewn cariad â'r femme fatale Phyllis Nirdlinger, ar ôl iddi ofyn am ei gyngor i yswirio bywyd ei gŵr. Mae Phyllis yn ceisio perswadio Walter i gymryd rhan mewn cynllun i ladd ei gŵr a'i wneud i edrych fel damwain, ac yna casglu'r yswiriant ar bolisi o indemniad ddwbl, hynny yw dwbl ei werth os yw'r yswiriwr yn marw mewn damwain.
Technegau a themâu
golyguDau o romans noirs (neu nofelau hardboiled) gorau'r 1930au oedd Double Indemnity a nofel gynt Cain, The Postman Always Rings Twice (1934). Maent yn straeon trosedd sy'n cynnwys prif nodweddion y genre hardboiled: moesoldeb dadleuol a thor-cyfraith, yn enwedig llofruddiaeth, l'amour fou (cariad rhywiol ac obsesiynol) a godineb, a dialog plaen a slic. Yn wahanol i straeon eraill y genre, yn bennaf nofelau Raymond Chandler, mae gan Double Indemnity naws fwy pesimistaidd a llai rhamantaidd.[1] Defnyddia Cain hefyd arddull cwta sy'n brin o ddisgrifiadau, ond eto yn ddarluniadol oherwydd y naws. Yn debyg i weithiau eraill Cain, mae'r erotiaeth a'r trais corfforol a seicolegol yn Double Indemnity yn ei gwahaniaethu o straeon awduron eraill y genre megis Chandler a Dashiell Hammett.
Mae'r nofel yn symboleiddio anfodlonrwydd y dosbarth canol Americanaidd yn ystod y 1930au. Mae gan y prif gymeriadau ymddygiad nihilaidd, sydd bron yn ddirfodol.[2] Mae dirfodaeth y nofel yn fwy amlwg wrth gofio yr oedd yn ysbrydoliaeth i Albert Camus wrth iddo ysgrifennu L'Étranger.
Addasiad ffilm
golyguCafodd y nofel ei haddasu'n ffilm ym 1944 a gyfarwyddyd gan Billy Wilder ac yn serennu Fred MacMurray a Barbara Stanwyck. Cafodd ei sgriptio gan Wilder a Raymond Chandler. Enwebwyd y ffilm am saith Oscar, ac heddiw fe'i hystyrir yn un o glasuron film noir.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Double Indemnity. bookrags.com. Adalwyd ar 25 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Ulin, David L. (23 Gorffennaf 2012). The Reading Life: Thinking about 'Double Indemnity'. Los Angeles Times. Adalwyd ar 25 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Gilbey, Ryan (17 Hydref 2010). Double Indemnity: No 6 best crime film of all time. The Observer. Adalwyd ar 25 Medi 2012.