The Devil Wears Prada (ffilm)
Mae The Devil Wears Prada (2006) yn ffilm gomedi-drama sy'n seiliedig yn fras ar nofel Lauren Weisberger o'r un enw yn 2003. Mae'r ffilm yn serennu Anne Hathaway fel Andy Sachs, merch sydd newydd raddio sy'n mynd i Ddinas Efrog Newydd. Mae'n derbyn swydd fel cyd-gynorthwyydd i olygydd cylchgrawn ffasiwn pŵerus a phenderfynol, Miranda Priestly, a chwaraeir gan Meryl Streep. Mae Emily Blunt a Stanley Tucci hefyd yn serennu yn y ffilm. Chwaraea Adrian Grenier, Simon Baker a Tracie Thoms rôlau cefnogol allweddol hefyd. Cynhyrchwyd y ffilm gan Wendy Finerman a chafodd ei chyfarwyddo gan David Frankel; dosbarthwyd y ffilm gan 20th Century Fox.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | David Frankel |
Cynhyrchydd | Wendy Finerman Karen Rosenfelt |
Ysgrifennwr | Nofel Lauren Weisberger Sgript Aline Brosh McKenna |
Serennu | Meryl Streep Anne Hathaway Emily Blunt Stanley Tucci Simon Baker Adrian Grenier |
Cerddoriaeth | Theodore Shapiro |
Sinematograffeg | Florian Ballhaus |
Golygydd | Mark Livolsi |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 30 Mehefin 2006 |
Amser rhedeg | 109 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg Ffrangeg |
Gwefan swyddogol | |