The Louvin Brothers

Deuawd gerddorol Americanaidd oedd The Louvin Brothers. Dau frawd oeddent, Ira a Charlie Louvin, eu henwau go iawn oedd Lonnie Loudermilk (21 Ebrill 1924 - 20 Mehefin 1965), a Charlie Elzer Loudermilk (7 Gorffennaf 1927 - 26 Ionawr 2011). Mae'r brodyr yn gefndryd i John D. Loudermilk.

Ysgrifennodd a pherfformiodd y brodyr gerddoriaeth wlad seciwlar, yn ogystal â cherddoriaeth efengyl llym. Chwaraeodd Ira mandolin yn feistrolgar, ac yn gyffredinol roedd yn canu'r prif lais tenor, tra bod Charlie yn chwarae gitâr rhythm a lleisiau cefnogol mewn dôn is. Fe wnaethant helpu i boblogeiddio'r dechneg leisiol o harmoni agos mewn cerddoriaeth gwlad a roc gwlad.[1]

Ar ôl dod yn berfformwyr rheolaidd yn y Grand Ole Opry a chael dilyniant o senglau poblogaidd ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 60au, ymwahanodd The Louvin Brothers ym 1963, i raddau oherwydd bod Charlie wedi blino ar gaethiwed ac ymddygiad di-hid Ira. Bu farw Ira mewn damwain draffig ym 1965. Cawsant eu sefydlu yn y Country Music Hall of Fame yn 2001, a bu farw Charlie o ganser yn 2011. Fe wnaeth Rolling Stone rhestri'r Louvin Brothers rhif 4 ar ei restr o'r 20 Deuawd Gorau Erioed.[2]

Cefndir

golygu
 
Charline Louvin yn 2008

Dechreuodd y brodyr defnyddio'r enw Louvin Brothers yn y 1940au wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfa mewn cerddoriaeth efengyl. Y tro cyntaf iddynt geisio cerddoriaeth seciwlar oedd y cân "The Get Acquainted Waltz", a recordiwyd gyda Chet Atkins. Caneuon eraill roedd "Cash on the Barrelhead" a "When I Stop Dreaming". Fe wnaethant ymuno â'r Grand Ole Opry ym 1955 ac aros yno nes iddynt wahanu ym 1963.[3]

Mae eu caneuon wedi dylanwadu'n drwm gan eu ffydd Bedyddaidd ac oedd yn rhybuddio yn erbyn pechod. erch hynny, roedd Ira Louvin yn enwog am ei yfed, cwrso menywod, a'i dymer folcanig. [4] Bu'n briod bedair gwaith. Gwnaeth ei drydedd wraig Faye ei saethu pedair gwaith yn y frest a dwywaith yn ei law, ar ôl iddo honni iddo geisio ei thagu â llinyn ffôn.[5] Wrth berfformio ac yfed, byddai Ira weithiau'n mynd yn ddigon blin ar y llwyfan i ddinistrio'i fandolin pan nad oedd yn gallu ei diwnio, a - phan yn sobr - ei gludo yn ôl at ei gilydd. Cafodd Bill Monroe ddylanwad mawr ar ei arddull, ac roedd ei frawd Charlie Monroe, a oedd â pherthynas stormus ag Ira, yn ei ystyried yn un o'r prif chwaraewyr mandolin yn Nashville.[6]

Yn 1963, wedi cael llond bol ar yfed ac ymddygiad ymosodol Ira, cychwynnodd Charlie yrfa unigol,[4] ac felly hefyd gwnaeth Ira.

Bu farw Ira ar 20 Mehefin, 1965, yn 41 oed. Roedd ef a'i bedwaredd wraig, Anne Young, ar y ffordd adref o berfformiad yn Kansas City pan darodd gyrrwr meddw eu car, a lladdwyd Ira ac Anne ar unwaith.[7] Ar y pryd, roedd gwarant i arestio Ira wedi'i chyhoeddi ar gyhuddiad trosedd yfed a gyrru.

Bu farw Charlie o ganser y pancreas ar 26 Ionawr 26 yn 83 oed.

Disgograffeg

golygu
  • 1956: The Louvin Brothers (MGM)
  • 1956: Tragic Songs of Life (Capitol)[8]
  • 1957: Nearer My God to Thee (Capitol)
  • 1958: Ira and Charlie (Capitol)
  • 1958: The Family Who Prays (Capitol)
  • 1958: Country Love Ballads (Capitol)
  • 1959: Satan Is Real (Capitol)
  • 1960: My Baby's Gone (Capitol)
  • 1960: A Tribute to the Delmore Brothers (Capitol)
  • 1961: Encore (Capitol)
  • 1961: Christmas with the Louvin Brothers (Capitol)
  • 1962: The Weapon of Prayer (Capitol)
  • 1963: Keep Your Eyes on Jesus (Capitol)
  • 1964: The Louvin Brothers Sing and Play Their Current Hits (Capitol)
  • 1965: Thank God for My Christian Home (Capitol)
  • 1966: Ira and Charles (Hilltop)
  • 1967: Two Different Worlds (Capitol)
  • 1967: The Great Roy Acuff Songs (Capitol)
  • 1968: Country Heart and Soul (Capitol)
  • 1973: The Great Gospel Singing of The Louvin Brothers (Capitol)
  • 1975: Live at New River Ranch (Copper Creek)
  • 1976: I Don't Believe You Met My Baby (Hilltop)
  • 1978: Songs That Tell a Story (Rounder)
  • 1990: Early MGM Recordings (Rounder)
  • 1992: Close Harmony (Bear Family Records)
  • 1995: Greatest Hits (Capitol)
  • 1995: When I Stop Dreaming: The Best of the Louvin Brothers (Razor & Tie)
  • 2006: The Essential Louvin Brothers 1955–1964: My Baby's Gone (Raven)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Johnson, Jon (October 2003). "Livin' Lovin' Losin' the Louvin's Way". Country Standard Time. Cyrchwyd January 22, 2010.
  2. "20 Greatest Duos of All Time". Rolling Stone (yn Saesneg). 2015-12-17. Cyrchwyd 2020-09-06.
  3. Wolfe, Charles K. (1996). In Close Harmony: The Story of the Louvin Brothers. Univ. Press of Mississippi. t. 91. ISBN 0-87805-892-3.
  4. 4.0 4.1 Robert Dimery; Michael Lydon (March 23, 2010). 1001 Albums You Must Hear Before You Die: Revised and Updated Edition. Universe. t. 26. ISBN 978-0-7893-2074-2.
  5. "'Opry' Singer Star Shot; Wife Jailed". The Miami Herald. February 21, 1963. Cyrchwyd March 27, 2011.[dolen farw]
  6. Louvin, Charlie (2012). Satan is Real.
  7. Strauss, Neil (November 28, 1996). "The Pop Life". New York Times. Cyrchwyd January 22, 2010.
  8. Robert Dimery; Michael Lydon (March 23, 2010). 1001 Albums You Must Hear Before You Die: Revised and Updated Edition. Universe. t. 26. ISBN 978-0-7893-2074-2.